Mae tîm criced y Tân Cymreig wedi cadarnhau y bydd seren Lloegr Jonny Bairstow, ynghyd â Tom Banton a Ben Duckett yn aros gyda’r tîm ar gyfer y gystadleuaeth Can Pelen yn 2021.

Yn ymuno â nhw fydd Ollie Pope, y chwaraewr rhyngwladol sydd ar gytundeb canolog gyda Lloegr.

Mae Alex Griffiths, Georgia Hennessy, Lauren Filer, Sophie Luff a Natasha Wraith wedi’u cadarnhau ar gyfer tîm y merched ar ôl cyfrannu’n helaeth at dîm Western Storm o dan gapteniaeth Luff yn y gorffennol.

Cafodd tymor cynta’r gystadleuaeth newydd sbon yn 2020 ei ohirio oherwydd y coronafeirws.

Bydd wyth tîm yn cystadlu yng nghystadlaethau’r dynion a’r merched, gyda’r rheiny wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, Birmingham, Leeds, Manceinion, Nottingham, Southampton a dau yn Llundain.

Bydd y gemau’n cael eu darlledu gan BBC a Sky Sports.

Bydd Phil Salt, yr unig gricedwr sy’n enedigol o Gymru yn y gystadleuaeth, yn chwarae i’r Manchester Originals.

Bydd gweddill y chwaraewyr yn cael eu cyhoeddi ar Chwefror 4.

Ymateb

“Dw i wrth fy modd o gael aros gyda’r Tân Cymreig a dw i wir yn edrych ymlaen at gynrychioli’r tîm yr haf yma,” meddai Jonny Bairstow.

“Mae Ben [Duckett] a Tom [Banton] yn chwaraewyr gwych, ill dau, ac mae gyda ni’r potensial i gael tî cryf.”