Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi egluro dryswch yn dilyn adroddiadau bod Ryan Reynolds a Rob McElhenney am ddod yn berchnogion yn swyddogol yr wythnos hon.

Dywed yr Ymddiriedolaeth iddyn nhw gael gwybod fod “aelod wedi postio sylwadau answyddogol heb eu cadarnhau” ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud bod yr actorion am gwblhau’r ddêl “yfory” (ar ddydd Llun, Ionawr 18).

Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n rhoi gwybod i aelodau trwy “sianeli swyddogol” pan fydd newyddion i’w gyhoeddi.

Eglurhad

Cafodd cytundebau eu cyfnewid yr wythnos ddiwethaf, yn ôl yr Ymddiriedolaeth.

Maen nhw’n dweud bod cwblhau’r broses yn ddibynnol ar gofrestru Ryan Reynolds a Rob McElhenney gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.