Mae tîm pêl-droed Caerdydd yn gobeithio y bydd Max Watters a Perry Ng ar gael i chwarae yn eu gêm gyntaf i’r clwb gartref yn erbyn QPR nos yfory (nos Fercher, Ionawr 20).

Mae Watters newydd ymuno o Crawley am £1m, tra bod Ng yn aros i gael ei gofrestru.

Bydd Kieffer Moore, ymosodwr Cymru, yn cael prawf ffitrwydd ar linyn y gâr a gallai’r capten Sean Morrison ddychwelyd ar ôl tair wythnos allan ag anaf i’w ffêr.

Ond mae Marlon Pack wedi’i wahardd yn dilyn cerdyn coch yn erbyn Norwich.