Fe wnaeth Tom King, golwr tîm pêl-droed Casnewydd, sgorio o gic gôl neithiwr i sicrhau pwynt i’w dîm oddi cartref yn erbyn Cheltenham yn yr Ail Adran.

Tarodd Matty Blair yn ôl i’r Saeson yn yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau yn yr hanner cyntaf, ac fe gollodd yr Alltudion y cyfle i ddychwelyd i frig y gynghrair o ganlyniad.

Ond bydd y gêm yn cael ei chofio’n bennaf am orchestion golwr Casnewydd ar ôl 11 munud, wrth i’w gic gôl adlamu ar ymyl y cwrt cosbi cyn mynd dros ben Josh Griffiths, golwr Cheltenham, ac i mewn i’r gôl.

Yn ei gôl ei hun, fe wnaeth King sawl arbediad campus drwy gydol y gêm.

Wrth amddiffyn perfformiad ei dîm, dywedodd y rheolwr Mike Flynn mai dyma’r tro cyntaf iddo weld gôl o’r fath “yn y cnawd”.

“Allen nhw ddim bod wedi gwybod ryw lawer am Tom oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod fod ganddo fe gic fawr,” meddai.

“Roedden ni’n ffodus gyda’r gôl honno oherwydd mi ddaeth yn erbyn llif y chwarae gan eu bod nhw’n well na ni yn yr hanner cyntaf, ond dw i’n fwy na bodlon ar y perfformiad yn yr ail hanner.

“Rydyn ni bellach wedi bwrw 40 pwynt ac mae gyda ni ddwy gêm wrth gefn, ond gall unrhyw un guro unrhyw un yn y gynghrair hon, ac mae’n mynd i fod yn ddiweddglo anodd iawn.”