Mae Wyn Jones, prop pen rhydd Cymru, yn dweud bod carfan y Scarlets “mor gryf ag yr ydw i’n ei chofio”, ar ôl iddo arwyddo cytundeb newydd.
Dyw’r rhanbarth ddim wedi datgelu am ba hyd mae Wyn Jones wedi ymrwymo i aros ym Mharc y Scarlets.
Mae’r gŵr 28 oed wedi ennill 30 o gapiau dros Gymru ers ennill ei gap rhyngwladol cyntaf dros dair blynedd yn ôl yn erbyn Tonga.
Chwaraeodd Wyn Jones dros Lanymddyfri yn Uwch Gynghrair Cymru cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Scarlets yn 2014 ac roedd yn aelod o’r garfan a wnaeth ennill y gynghrair yn 2017.
“Dw i’n mwynhau fy rygbi ar hyn o bryd, mae’n amgylchedd gwych i fod yn rhan ohono, felly roedd yn benderfyniad hawdd i ail-lofnodi,” meddai Wyn Jones.
“Mae’r garfan yma mor gryf ag yr ydw i’n ei chofio, gyda chymysgedd o brofiad a chwaraewyr ifanc sy’n gwneud argraff, ac mae gennym uchelgais i gystadlu â’r goreuon yn y Pro14 ac yn Ewrop.
“Roedd yn foment falch i mi wneud fy 100fed ymddangosiad ychydig wythnosau’n ôl ac rwy’n teimlo yn 28 oed fod mwy i ddod gen i.”
“Newyddion gwych”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney fod cytundeb newydd Wyn Jones yn “newyddion gwych”.
“Fe yw prop pen rhydd Cymru ac mae’n wych bod Wyn eisiau aros, yn gweld gwerth mewn aros yma a’i fod yn edrych i symud ymlaen a gwella eto,” meddai.
“Mae’n gymeriad mawr i’w gael o gwmpas y lle, rydyn ni’n caru ei bersonoliaeth, mae’n llawn egni ac wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud yma.”