Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi enwi’i garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Ymhlith y chwaraewyr sydd wedi eu dewis mae Dan Lydiate a Rhodri Jones, sydd heb chwarae i Gymru ers 2018.

Ar ôl anafu ei ben-glin yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Eidal ychydig dros fis yn ôl, roedd pryder am gapten Cymru, Alun Wyn Jones, ond mae’r chwaraewr ail reng profiadol wedi ei gynnwys yn y garfan.

Mae Ken Owens, Josh Navidi a Tomos Williams hefyd yn dychwelyd o anafiadau.

Mae Adam Beard, Jarrod Evans ac Hallam Amos hefyd wedi eu cynnwys ar ôl cael eu gadael allan o garfan yr Hydref.

Ond does dim lle i’r mewnwr Rhys Webb yng ngharfan y Che Gwlad eleni, nag Ioan Evans, Shane Lewis-Hughes, James Botham a Sam Parry a enillodd eu capiau cyntaf yn ystod yr Hydref.

Josh Macleod yw’r unig chwaraewr sydd eto i ennill cap – cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref y llynedd cyn colli’r cyfle i chwarae i’w wlad ar ôl cael anaf wrth chwarae i’r Scarlets.

Anafiadau

Ar ôl anafu ei ffêr ar ddechau ymgyrch yr Hydref y llynedd dydy’r chwaraewr rheng ôl Ross Moriarty heb ei gynnwys.

Mae nifer o absenoldebau hirdymor eraill gyda Rhys Patchell, Rob Evans, Nicky Smith, Samson Lee, James Davies, Scott Williams, Jonah Holmes, Gareth Anscombe, Aaron Shingler ac Ellis Jenkins i gyd yn parhau i wella.

Yn ôl Cyfarwyddwr Rygbi dros dro Gleision Caerdydd, mae Elis Jenkins, sydd heb chwarae ers anafu ei ben-glin yn erbyn De Affrica yn 2018, yn agos iawn i fod yn holliach ac yn barod i chwarae.

Dyma fydd ail bencampwriaeth Wayne Pivac wrth y llyw – gorffennodd Cymru yn bumed yn y gystadleuaeth y llynedd.

Dim ond tair gêm gystadleuol allan o 10 mae Cymru wedi ennill ers i iddo gymryd yr awenau ddiwedd 2019.

Bydd Cymru yn croesawu Iwerddon i Gaerdydd ar benwythnos cyntaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Chwefror 7.

Carfan Cymru:

Gemau Cymru yn y Bencampwriaeth eleni:

Cymru v Iwerddon Stadiwm Principality Chwefror 7, 15.00
Yr Alban v Cymru Stadiwm Murrayfield Chwefror 13, 16.45
Cymru v Lloegr Stadiwm Principality Chwefror 27, 16.45
Yr Eidal v Cymru Stadio Olimpico Mawrth 13, 14.15
Ffrainc v Cymru Stade de France Mawrth 20, 20.00