Bu Gareth Blainey yn gohebu ar y byd chwaraeon mewn pum degawd gwahanol…

Mae Gareth Blainey yn dweud ei fod yn “teimlo’n hynod o ffodus” o fod wedi gallu bod yn aelod o staff Adran Chwaraeon BBC Cymru. Cafodd ei benodi yn 1987, gan gyd-gyflwyno rhaglen chwaraeon prynhawn Sadwrn Radio Cymru cyn mynd yn ei flaen i ohebu a sylwebu ar ystod eang o gampau.