Mae Ian Cottrell wedi bod yn DJ yng Nghlwb Ifor Bach ers chwarter canrif a mwy, ac yn dal i deimlo’r wefr wrth gynnal y disgo.
Bu’r cerddor 47 oed yn llywio’r gerddoriaeth yn y clwb nos eiconig yng Nghaerdydd ers 1991, pan symudodd i’r brifddinas.
Ac ers 2008 mae wedi bod yn cynnal nosweithiau Dirty Pop gyda’i ffrind agos, Esyllt Williams.
Byth ers hynny – wel, tan yr argyfwng – mae’r pâr wedi bod yn gyfrifol am gadw clwb Cymreiciaf Caerdydd yn bownsio tan oriau mân y bore.
Pob nos Sadwrn mae DJs Dirty Pop yn meddiannu tri llawr y clwb, gyda cherddoriaeth ddisgo a phop ar y llawr gwaelod, funk a soul ar y llawr canol, a hits bandiau gitâr ar y llawr uchaf.
Dros y blynyddoedd mae gwahanol DJs wedi mynd a dod, ond mae Ian Cottrell ac Esyllt Williams wedi parhau fel rhyw angor i’r cyfan, gan rannu’r slot ‘disgo pop’ ar y llawr gwaelod.
Cyn y Pla, roedd y gŵr o Gei Connah wrth y decs o leia’ ddwywaith y mis – ar gyfer sesiynau sydd yn para chwe awr.
Ac yntau’n nesáu at yr hanner cant (ond yn edrych yn ddigon sionc am ei oedran!) onid yw’r cyfan yn straen ac yn ei flino?
“T’mo be? Mae’n grêt,” meddai gan chwerthin. “Mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato hefyd, pob nos Sadwrn.
“Pan rydan ni’n ailagor eleni – dw i’n deud hynna yn obeithiol – gobeithio tua diwedd y flwyddyn, bydd rhaid i fi gael rhyw fath o barti i ddathlu 30 mlynedd o DJ-io yn Clwb.
“Dydy o ddim yn teimlo fel hynny. Dw i’n dal yn teimlo’n eitha’ ifanc fy ysbryd!”
Mae’r troellwr disgiau yn ymfalchïo yn y ffaith bod ei nosweithiau yn denu cynulleidfa gymysg, gyda phobol o bob cefndir yn dawnsio i’w diwns.
“Mae Clwb a Dirty Pop, dw i’n credu, yn agor llygaid pobol ddi-Gymraeg i’r Gymraeg,” meddai.
Ac yntau yn ddyn hoyw, mae hefyd yn falch o fedru cyfrannu at gymuned LGBTQ (pobol lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, trawsrywiol a queer) y brifddinas â’i DJ-io.
“Rydan ni wedi magu cynulleidfa a dilyniant yn y gymdeithas LGBTQ.
“Doedd dim lot o lefydd yng Nghaerdydd a oedd yn chwarae cerddoriaeth fel oedden ni’n chwarae.
“Felly pan mae Pride yn digwydd yng Nghaerdydd, mae’r penwythnosau yna wastad wedi bod yn brilliant.
“Mae Dirty Pop wedi dod yn real canolbwynt i’r gymdeithas yna, ac i bobol ddod i nabod ei gilydd. Ac rydan ni mor ddiolchgar.
“Fel person hoyw fy hun, doedd gennym ni ddim llefydd fel’na i fynd pan oedden ni’n tyfu i fyny. A dw i jest yn falch ein bod ni wedi medru creu awyrgylch diogel, cyfeillgar, a chroesawgar yn Clwb.”
Mae’r argyfwng Covid wedi rhoi stop llwyr i bethau, wrth gwrs, ac mae’r DJ yn cydnabod bod y misoedd distaw diwetha’ wedi bod yn brofiad rhyfedd iddo.
Dyw lloriau dawnsio Clwb ddim wedi bod ar agor ers Mawrth 14 – dyna oedd ei noson ddiwethaf ar y decs – ond mae Ian Cottrell wedi parhau i ddewis a chwarae tiwns.
Mae Dirty Pop wedi bod yn rhannu “Playlists Spotify” – casgliad o ganeuon gan amryw artistiaid – ar y rhyngrwyd, pob dydd Sadwrn dros y misoedd diwethaf.
Ac mae’r ymateb i’r rheiny wedi bod yn “bril”, meddai’r DJ, gyda phobol “yn postio lluniau o’u hunain yn eu crysau-t Dirty Pop neu grysau Clwb ar y cyfryngau cymdeithasol”.
Daeth cyfle fis diwetha’ i gynnal noson Dirty Pop – wedi ei ffrydio yn fyw ar y We o Glwb Ifor Bach – ar Nos Galan.
Roedd Ian Cottrell, Esyllt Williams, a thri pherson technegol yno (gyda phawb yn pellhau yn gymdeithasol) a chynhaliwyd set pedair awr o hyd, o naw y nos hyd at un y bore.
“Roedd yr ymateb yn anhygoel. Wnaethon ni wneud o ar MixCloud,” meddai. “Ac ar MixCloud rydych yn medru gadael sylwadau a sgwrsio yn y bocs sylwadau – yn debyg i YouTube.
“Roedd cymuned Clwb, basically, ar Nos Galan yn eu cartrefi eu hunain [ond] wedi dod at ei gilydd. Ac roeddech yn gweld nhw i gyd yn sgwrsio â’i gilydd yn y bocs sylwadau.
“Ac roedd o fel bod wrth y bar, neu yn yr ardal ysmygu – pobol yn cael chat efo’i gilydd.”
Bu cerdd-garwyr o’r Unol Daleithiau, Sbaen, a’r Aifft yn dilyn y ffrwd, ac ar un adeg roedd dros 2,000 yn gwylio.
Yn byw yn y brifddinas, wrth ei waith bob dydd mae Ian Cottrell yn gyfieithydd i Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Cymraeg oedd ei bwnc yn y brifysgol, ond mae’n jocian ei fod heb gael “lot fawr o amser i astudio”.
Ef oedd un o sefydlwyr y grŵp dawns Diffiniad – sy’n enwog am yr hit ‘Calon’.
“Treuliais fy nghyfnod prifysgol cyfan, mwy neu lai, ar dancefloors, llwyfannau, mewn stiwdios teledu, ac yn gigio!
“Dyna oedd fy mywyd prifysgol i, fwy neu lai!”
Dechreuodd ei yrfa yn gweithio fel athro Cymraeg, ac wedi hynny mi dreuliodd bron i 15 mlynedd yn y byd teledu, yn cyflwyno rhaglenni pop megis Bandit.
Yn 40 oed mi drodd ei gefn ar deledu.
“Penderfynais gael bach o hoe, a semi-retirement i fy hun, a chael bywyd bach mwy relaxed.
“Dyna beth dw i’n ei wneud rŵan!”