Bu farw’r telynor enwog, Dr Osian Ellis CBE, yn 92 oed.

Hyd at y flwyddyn cyn ei farwolaeth, roedd yn dal wrthi yn recordio a chyhoeddi cerddoriaeth.

Roedd wedi ymgartrefu ym Mhwllheli, tref enedigol ei wraig, ar ôl 60 mlynedd o fyw yn Llundain lle y cafodd yrfa gerddorol lewyrchus dros ben.