Gallai etholiad y Senedd gael ei ohirio am hyd at chwe mis oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnig Bil brys newydd a fyddai’n rhoi’r pŵer i’r Senedd ohirio’r etholiad sydd i fod i gael eu cynnal ar Fai 6.
Dywedodd Gweinidogion eu bod am sicrhau bod etholiad Senedd yn un “diogel”.
Dim ond mwyafrif Aelodau o’r Senedd fyddai eu hangen i basio’r gyfraith newydd a fyddai’n cyflwyno’r fframwaith newydd gan ganiatáu oedi posibl yn yr etholiad.
Ond byddai angen i ddau draean, neu 40 o’r 60 o Aelodau o’r Senedd, er mwyn caniatáu gohirio’r etholiad am chwe mis.
“… i’w defnyddio pan fydd popeth arall wedi methu”
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol: “Bwriad clir Llywodraeth Cymru yw y dylid cynnal etholiad nesaf y Senedd ddydd Iau 6 Mai 2021.
“Rydym hefyd yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pobol bleidleisio pan fydd yr etholiad yn cael ei gynnal.
“Fodd bynnag, oherwydd natur anrhagweladwy’r coronafeirws, mae ansicrwydd sylweddol ynglŷn â beth fydd y sefyllfa ym mis Mai.
“Dyna pam rydym yn ceisio caniatâd y Senedd i gyflwyno Bil brys a fyddai’n rhoi’r pwerau angenrheidiol i Aelodau o’r Senedd reoli’r ffordd y cynhelir yr etholiad, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
“Os yw nifer yr achosion yn mynnu bod yr etholiad yn cael ei ohirio, bydd y Bil yn darparu’r pwerau, i’w defnyddio pan fydd popeth arall wedi methu, i ohirio’r etholiad am hyd at chwe mis.
“Byddai’r Bil yn sicrhau bod hyn yn amodol ar gefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau o’r Senedd, sy’n golygu y byddai gan bob aelod rôl yn y penderfyniad terfynol.”
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno cyfraith debyg i ganiatáu oedi i etholiad Senedd yr Alban ar Fai 6.