Mae Vaughan Gething wedi bod yn canu clodydd ei raglen frechu wrth annerch y wasg brynhawn heddiw.

Yn siarad yng nghynhadledd wasg Llywodraeth Cymru, pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd bod yna ymdrech ddwys i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn brechlynnau.

Daw ei sylwadau yn sgil diwrnodau o ddryswch ynghylch y rhaglen. Ar ddechrau’r wythnos daeth awgrym bod y Llywodraeth yn fwriadol yn oedi wrth ddarparu brechlynnau Pfizer.

“Mae pob brechlyn rydym yn eu derbyn yn mynd at bobol sydd ei angen,” meddai. “Dydy brechlynnau ddim yn cael eu dal yn ôl.

“Pob dydd rydym yn brechu mwyfwy o bobol. Mae byddin fach o bobol yn gweithio gyda’n GIG bob awr o’r dydd i sicrhau ein bod ni i gyd yn cael ein hamddiffyn rhag y feirws ofnadwy yma.

“A does dim llawer yn cael ei wastraffu yng Nghymru. Dim ond rhyw 1% o frechlynnau sydd heb gael eu defnyddio.”

Ystadegau

  • Mae 176,000 o bobol wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn (dros 5% o boblogaeth Cymru)
  • Pob dydd mae dros 10,000 yn derbyn dos cyntaf o’r brechlyn (sy’n gyfystyr â saith person pob munud)
  • Mae 28 canolfan brechu eisoes ar agor, ac mi fydd hynny’n cynyddu i 45
  • Mae dros 100 meddygfa yn darparu brechlynnau, a bydd hynny’n cynyddu i 250 dros y pythefnos nesaf
  • Mae 9/10 o ganolfannau brechu ar agor saith diwrnod yr wythnos
  • 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu pob dydd

Y rhaglen yn cyflymu

“Yr wythnos hon mi fydd y rhaglen brechu yn cyflymu eto,” meddai yn y gynhadledd. “Mae cyflenwadau brechlyn Oxford/AstraZeneca wedi cynyddu cryn dipyn.

“Rydym yn disgwyl y byddwn yn derbyn dwbl y brechlynnau’r wythnos hon, o gymharu â’r pythefnos cyntaf pan oedd y brechlyn ar gael.

“Mae hynny’n golygu y bydd pobol dros 80, a rhagor o bobol sy’n byw a gweithio mewn cartrefi gofal yn cael eu brechu mewn meddygfeydd teulu.”

Mae’r Llywodraeth yn gobeithio brechu pob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn yr hydref, a’r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror.

Sefyllfa’n gwella

Dywedodd hefyd bod sefyllfa’r feirws yn dechrau gwella dros Gymru gyfan, gan gynnwys yng ngogledd y wlad mae’r sefyllfa wedi bod yn poethi.

“Rydym yn dechrau gweld cwymp mewn achosion ledled Cymru – gan gynnwys gogledd Cymru,” meddai.

“Ledled y wlad mae nifer yr achosion wedi cwympo i lai na 300 i bob 100,000 – a hynny am y tro cyntaf ers hir.

“Er bod achosion yn parhau’n uchel, ac mae’r sefyllfa yn dal i fod yn ddifrifol, mae pawb wedi cyfrannu ac aberthu cymaint gan ddilyn y rheolau a gwneud y peth iawn.

“Ond rydym ni dal angen eich help.”

Ffigurau diweddaraf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 44 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws heddiw (dydd Mercher, Ionawr 20).

Mae’n golygu y bu cyfanswm o 4,346 o farwolaethau coronafeirws yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi 1,283 yn rhagor o achosion, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 183,882.

 

Beirniadu sylwadau Mark Drakeford am ‘ymestyn’ y broses frechu

“Fe’m syfrdanwyd gan y sylwadau,” medd arweinydd y Ceidwadwyr, a ‘rhywbeth o’i le wrth wraidd y strategaeth,’ medd Plaid Cymru

Cymru yn brechu “cyn gynted ag y gallwn”, medd Vaughan Gething

“Cymru fydd y wlad sy’n perfformio bumed orau yn y byd, ond rydyn ni hefyd yn gwybod ein bod ni’n mynd i gael ein cymharu gyda gwledydd eraill y DU”
Paul Davies

Dim cofnod bod brechu wedi ei drafod yng nghyfarfodydd Cabinet Llywodraeth Cymru

“Yn amlwg, rydym ni yng Nghymru bellach yn talu’r pris am betruso ac oedi Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd,” meddai Paul Davies