Mae pryderon o’r newydd y gallai etholiadau’r Senedd gael eu gohirio wrth iddi ddod i’r amlwg y gallai etholiadau Holyrood fis Mai hefyd gael eu symud.

Yn ôl erthygl yn The Times, gallai Mai 6 fod yn rhy gynnar o ganlyniad i gyfyngiadau’r coronafeirws sydd mewn grym yn yr Alban ar hyn o bryd.

Ac fe fu adroddiadau eisoes y gallai etholiadau cynghorau Lloegr hefyd gael eu gohirio tan yr haf neu’r hydref.

Fe allai hynny olygu bod gan Lywodraeth Cymru benderfyniad i’w wneud ynghylch etholiadau’r Senedd, gyda chyfraddau coronafeirws ar gynnydd eto.

Y sefyllfa yng Nghymru

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James y gallai cynnal yr etholiad fod yn heriol iawn.

Mae cynlluniau dadleuol ar y gweill i gyflwyno deddfwriaeth fyddai’n galluogi’r Llywydd i ohirio etholiadau am hyd at chwe mis.

Pe bai’r etholiadau’n cael eu cynnal, fyddai’r cyfri ddim yn digwydd ar yr un noson fel sydd fel arfer yn digwydd.