Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi darogan y bydd etholiad Senedd eleni yn “heriol iawn” i’w chynnal.
Daw sylwadau Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wrth iddi gyhoeddi enwau’r swyddogion a fydd yn helpu â threfniadau’r etholiad ledled y wlad.
Er bod disgwyl i etholiad y Senedd gael ei gynnal ar Fai 6, mae yna bryderon y bydd yr argyfwng covid yn cymhlethu pethau, ac mae trafodaeth yn mynd rhagddi ynghylch newid y dyddiad.
“Bydd yr etholiadau hyn yn rhai heriol iawn gan eu bod yn cael eu cyfuno ag etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu,” meddai Julie James.
“Ac yn bwysicaf na hynny, dyma fydd y tro cyntaf i bobol tramor [sy’n byw yng Nghymru ac yn gymwys i bleidleisio] a’r bobl ifanc sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio gymryd rhan ynddynt.
“Hefyd, bydd her ychwanegol o ran sicrhau bod yr etholiadau’n cael eu cynnal mewn modd diogel yn wyneb y pandemig.
“Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad personol sylweddol gan y rheini sydd wedi cytuno i gyflawni rôl [y swyddogion], a dw i’n ddiolchgar y byddwn ni’n cael elwa ar eu gwybodaeth a’u profiad.”
Gohirio’r etholiad?
Mae gan y Llywydd bwerau i ohirio etholiad hyd at fis i’r dyfodol, ac yn ôl adroddiad gan y BBC mae yna awydd i alluogi gohiriad hirach.
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cefnogi’r fath gam, ac yn agored i’r syniad o ohirio pe bai angen. Eu dadl yw y dylid cynnal yr etholiad pan fydd hynny’n ddiogel.
Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Diddymu’r Cynulliad ar y llaw arall yn llwyr wrthwynebus i ohirio’r etholiad.
Yn ôl adroddiad arall, fydd canlyniadau’r etholiad ddim yn cael eu cyfri dros nos eleni.
Y swyddogion
Wele’r swyddogion sydd wedi’u cyhoeddi gan Julie James – y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Cymru – islaw:
- Canolbarth a Gorllewin Cymru – Eifion Evans, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion
- Gogledd Cymru – Colin Everett, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Sir y Fflint
- Gorllewin De Cymru – Phil Roberts, y swyddog canlyniadau ar gyfer Dinas a Sir Abertawe
- Canol De Cymru – Debbie Marles, y swyddog canlyniadau ar gyfer Bro Morgannwg
- Dwyrain De Cymru – Michelle Morris, y swyddog canlyniadau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent