Mae timau achub wedi dod o hyd i weddillion awyren o Indonesia ym Môr Java, ddiwrnod yn unig ar ôl iddi adael Jakarta.

Fe ddiflannodd yr awyren ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 9), yn fuan ar ôl iddi adael Jakarta â 62 o deithwyr.

Mae timau achub eisoes wedi dod o hyd i rannau o gyrff, darnau o ddillad a metel ar wyneb y môr ar ôl dod o hyd i’r fan lle plymiodd yr awyren i’r môr drwy ddefnyddio signalau gan y peilot yn fuan cyn y digwyddiad.

Yn ôl adroddiadau, roedd pysgotwyr wedi clywed ffrwydrad am oddeutu 2.30yp ac maen nhw’n dweud bod y tywydd yn wael iawn ar y pryd.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y daith wedi’i gohirio am awr, a bod yr awyren wedi diflannu bedair munud yn unig ar ôl gadael Jakarta.

Roedd yr awyren eisoes wedi gwneud dwy daith arall yn ystod y dydd.

Dydy hi ddim yn glir beth oedd wedi achosi i’r awyren blymio i’r môr, a does dim arwyddion fod unrhyw un wedi goroesi.

Hanes o broblemau

Fe fu nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â thrafnidiaeth yn Indonesia dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny’n bennaf o ganlyniad i safonau diogelwch isel.

Yn 2018, cafodd 189 o bobol eu lladd pan blymiodd Boeing 737 Max 8 i Fôr Java.

Fe ddigwyddodd gwrthdrawiad tebyg bum mis yn ddiweddarach yn Ethiopia.

Yn dilyn y digwyddiadau hyn, wnaeth awyrennau Max 8 ddim cael eu hedfan am 20 mis.