Mae trigolion Kyrgyzstan yn bwrw eu pleidlais heddiw yn etholiad arlywyddol y wlad.

Fe fyddan nhw hefyd yn penderfynu faint o rym fydd gan yr arweinydd nesaf.

Daw hyn ar ôl i Sooronbai Jeenbekov gael ei symud o’i swydd fis Hydref y llynedd.

Bryd hynny, roedd y llywodraeth wedi’i chyhuddo o drefnu canlyniad yr etholiad wrth i’r pleidiau o blaid y llywodraeth ennill buddugoliaeth swmpus.

Fe fu’n rhaid i’r arlywydd gamu o’r neilltu ar Hydref 15 yn dilyn pwysau gan y gwrthbleidiau.

Mae disgwyl i Sadyr Zhaparov, gwleidydd 52 oed, ennill yr etholiad diweddaraf ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar cyn arwain y broses o symud y cyn-arlywydd o’i swydd.