Mae Donald Trump yn chwilio am ffyrdd newydd o leisio’i farn ar y we wrth i’w gyfnod wrth y llyw yn yr Unol Daleithiau ddirwyn i ben.

Ddeng niwrnod cyn i Joe Biden ei olynu yn y Tŷ Gwyn, mae Trump heb lwyfan ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl iddo gael ei wahardd gan Facebook, Twitter ac Instagram yn dilyn y protestiadau treisgar yn Washington ganol yr wythnos.

Mae Twitter hefyd wedi gwahardd sawl un o gefnogwyr Trump, gan gynnwys ei gyn-ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol Michael Flynn – roedd gan nife o’r cyfrifon hyn gannoedd o filoedd o ddilynwyr.

Mae Facebook ac Instagram wedi ei wahardd tan ddiwrnod yr urdd o leiaf, tra bod Twitch a Snapchat hefyd wedi atal ei gyfrifon dros dro.

Mae Shopify hefyd wedi dileu siopau ar-lein sydd â chysylltiadau â Trump, ac mae Reddit hefyd wedi dileu un o’i grwpiau sy’n ymwneud â’r arlywydd.

Un opsiwn fyddai Parler, ond mae hwnnw wedi’i dynnu oddi ar lwyfannau Google, Apple ac Amazon.

Ond opsiwn arall hefyd fyddai i Trump greu ei lwyfan ei hun, a allai gymryd cryn amser.

Wrth wahardd ei gyfrif, dywedodd Twitter fod neges yn dweud na fyddai’n mynd i seremoni urddo Joe Biden yn Washington yn annog pobol i ymgynnull ar ei ran.

Parler

Gyda’r tebygolrwydd yn cynyddu mai at Parler y bydd Donald Trump yn troi, mae darparwyr y gwasanaeth yn dechrau cymryd camau i atal yr arlywydd rhag lledaenu ei bropaganda.

Mae gan Parler dros 12m o ddefnyddwyr, gan gynnwys meibion Trump, Eric a Don Jr.

Mae Google ac Apple eisoes wedi tynnu ap ffôn clyfar Parler oddi ar eu gwasanaethau ar-lein, a daw hynny ar ôl i Apple roi 24 awr i Parler fynd i’r afael â chwynion ei fod yn galluogi pobol i “gynllwynnio a hwyluso rhagor o weithgareddau anghyfreithlon a pheryglus”.

Mae Amazon hefyd yn dweud eu bod nhw wedi rhybuddio Parler am 98 o enghreifftiau o negeseuon sy’n annog trais, a bod y llwyfan yn “peri risg go iawn i ddiogelwch y cyhoedd”.

Gab

Opsiwn arall fyddai troi at Gab, gwasanaeth arall a gafodd ei ddileu gan Google ac Apple yn 2017.

Yn ôl arbenigwyr, mae disgwyl i Facebook, Twitter a YouTube blismona negeseuon yn well yn dilyn y trais yn Washington.

Mae arbenigwyr hefyd wedi tynnu sylw at gamau posib yn erbyn Parler, yn ogystal â’r camau y bydd rhaid i wasanaethau eraill eu cymryd, a’r gwasanaethau hynny’n cynnwys MeWe, Wimkin, TheDonald.win a Stormfront.

Mae penderfyniad y gwasanaethau i gyd i wahardd Donald Trump wedi hollti barn, gyda rhai yn rhybuddio y gallai arwain at gwmnïau unben yn gwahardd unrhyw un sy’n ceisio arddel yr hawl i siarad yn gyhoeddus heb ragfarn.