Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud eu bod nhw’n “brysur iawn” unwaith eto heddiw (dydd Sul, Ionawr 10) wrth i bobol barhau i dorri cyfyngiadau’r coronafeirws.
Mewn neges ar Twitter, dywed yr heddlu eu bod nhw’n “brysur iawn unwaith eto yn adrodd am ymwelwyr â’r ardal am dorri cyfyngiadau COVID”.
“Rydym yn ymweld â phob safle felly plis cadwch at y rheolau,” meddai’r neges.
“Rydym yn cymryd y cyfyngiadau COVID o ddifri felly plis cadwch atyn nhw.”
Mynydd Tryfan
Mewn neges flaenorol neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 9), dywedodd yr heddlu iddyn nhw ddod o hyd i bump o bobol, gan gynnwys pedwar yn eu harddegau, oedd wedi teithio o Ellesmere Port “i ddringo Tryfan mewn esgidiau rhedeg yn y tywyllwch”.
Mae neges arall yn atgoffa pobol fod “rhaid gwneud ymarfer corff yn lleol, a dechrau a gorffen yn eich cyfeiriad cartref”.