Gallai athrawon gael eu rhoi ar restr o bobol i’w blaenoriaethu wrth roi brechlynnau coronafeirws, yn ôl pwyllgor brechu.

Dywed yr Athro Adam Finn, sy’n aelod o’r Pwyllgor Brechu ac Imiwneiddio, fod gan y pwyllgor tan ganol mis nesaf i lunio’r rhestr er mwyn penderfynu pwy ddylai gael eu brechu nesaf.

Dywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News y byddai athrawon “wir yn ymddangos yn y trafodaethau”, ond nad oes modd darogan pwy fydd ar y rhestr.

Dywedodd fod “gwerthoedd cymdeithasol” i’w hystyried, yn wahanol i’r arfer, a bod hynny’n rhoi cryn bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, a bod gan athrawon “rôl hanfodol” yn y gymdeithas.

Rhybudd gan undeb

Daw ei sylwadau wrth i’r undeb athrawon NASUWT rybuddio bod gormod o blant yn cael dychwelyd i’r ysgol er gwaetha’r cyfnod clo.

Mae hynny, meddai’r undeb, yn cynyddu’r risg fod y feirws yn lledu ymhellach nag y dylai a’i fod yn digwydd yn gynt.

Yn ôl Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan fu’n siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, does dim rhaid bod ailagor ysgolion yn ddibynnol ar frechu athrawon.

Ond mae’n dweud y byddai’n “beth da” pe bai modd eu brechu’n fuan.