Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am “fyddin frechu” dan arweiniad Gweinidog Brechlynnau i fynd i’r afael â rhoi brechlynnau coronafeirws yng Nghymru.

Daw’r alwad gan Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y blaid yn y Senedd, wrth i ffigurau swyddogol ddangos bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 270,000 o frechlynnau gan Lywodraeth Prydain, ond mai dim ond 49,000 o ddosau oedd wedi cael eu rhoi erbyn Ionawr 3.

Byddai cynllun o’r fath yn cyflymu’r broses, yn ôl y blaid.

‘Oedi’

“Ers wythnosau bellach, rydym wedi bod yn tynnu sylw at arafwch cyflwyno’r brechlyn Covid yng Nghymru ond eto, mae Llywodraeth Cymru’n oedi ac yn petruso,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’r ffigurau heddiw’n syfrdanol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 270,000 o ddosau o’r brechlyn Covid ond eto, dim ond 49,000 o bobol sydd wedi derbyn eu dôs cyntaf.

“Yn hytrach na bwrw iddi a chyflwyno’r hyn sydd rhaid iddyn nhw mewn gwirionedd, maen nhw’n dweud wrthym fod angen i ni fod yn amyneddgar ac nad ras wibio mo hon.

“Mae gan Lywodraeth Cymru y dosau o’r brechlyn ac mae ganddyn nhw’r grym i’w cael nhw allan i’r bobol sydd eu hangen fwyaf.

“Maen nhw wedi cael eu dal yn annisgwyl ond eto, dydy hi ddim yn ymddangos bod brys gwyllt.

“Mae angen i Weinidog y Llywodraeth gael un swydd sef cyflwyno’r brechlyn gan ddefnyddio holl adnoddau Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, meddygon teulu, fferyllwyr ac unrhyw un arall sy’n gallu helpu.

“Mae angen byddin frechu arnom, gyda chefnogaeth ein Lluoedd Arfog, i gwblhau’r gwaith.

“Allwn ni ddim fforddio rhagor o oedi.”