Mae ennill annibyniaeth yn “flaenoriaeth hanfodol” ar gyfer adferiad coronafeirws yr Alban, yn ôl y dirprwy brif weinidog John Swinney.
Fe ddaw ei sylwadau wrth iddo ymateb i sylwadau Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, sy’n mynnu na ddylid cynnal refferendwm o’r newydd er ei fod yn cydnabod nad yw’r Deyrnas Unedig yn ei ffurf bresennol yn gynaladwy.
Yn y gorffennol, mae e wedi galw am “gonfensiwn cyfansoddiadol” er mwyn ailwampio datganoli yn hytrach na chynnal refferendwm annibyniaeth arall yn dilyn yr un aflwyddiannus yn 2014.
Daw’r sylwadau wrth i bolau piniwn niferus awgrymu mwy o gefnogaeth i annibyniaeth dros y misoedd diwethaf, gyda rhai yn awgrymu’n gynyddol fod y mwyafrif bellach o blaid gadael y Deyrnas Unedig.
‘Refferendwm sy’n hollti’
“Dw i ddim yn meddwl y dylai fod refferendwm arall, dw i ddim yn meddwl mai refferendwm arall sy’n hollti yw’r ffordd ymlaen,” meddai Syr Keir Starmer wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.
“Ond dw i yn derbyn nad yw’r status quo yn gweithio.
“Dw i ddim yn derbyn y ddadl nad yw’r status quo yn gweithio ac felly mai’r peth nesaf rydych chi’n ei wneud yw mynd at refferendwm.
“Dw i’n meddwl bod yna bethau eraill y gallwch chi eu gwneud, dadleuon eraill y gellir eu gwneud i gefnogi’r Deyrnas Unedig.”
Sylwadau John Swinney
Roedd Syr Keir Starmer yn ymateb i sylwadau John Swinney mewn cyfweliad ar BBC Politics Scotland.
“Mae refferendwm annibyniaeth yn flaenoriaeth hanfodol ar gyfer pobol yr Alban, oherwydd mae’n rhoi’r cyfle i ddewis sut rydyn ni’n ailadeiladu fel gwlad ar ôl Covid,” meddai.
“Byddai’n rhoi’r cyfle i ni benderfynu ar ein dyfodol cyfansoddiadol ac i benderfynu ar natur ein heconomi a’r ffordd rydyn ni’n ymdrin â’n trigolion ac yn eu cefnogi.
“Mae’n ymateb hanfodol i Covid.”
Mae Kirsten Oswlad, dirprwy arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi ategu ei sylwadau, gan ddweud bod cynnal refferendwm arall yn “hanfodol”.
Mae Llywodraeth yr Alban yn mynnu ers tro y dylid cynnal refferendwm arall pe bai’r mwyafrif o aelodau Holyrood ar ôl yr etholiad o blaid annibyniaeth.
Ond mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, hefyd yn mynnu y dylid aros hyd at 40 mlynedd cyn cynnal refferendwm arall.
Dydy Syr Keir Starmer ddim yn cytuno â Boris Johnson, meddai, ond mae’n gwrthod dweud pryd y byddai’n barod i ystyried cynnal refferendwm arall.