Mae Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dweud bod y ffigurau coronafeirws diweddaraf yng Nghymru’n “destun pryder difrifol”.

Cafodd 45 o farwolaethau a 1,660 o achosion newydd eu cyhoeddi heddiw (dydd Sul, Ionawr 10).

Mae’n golygu bod 3,964 o bobol wedi marw a chyfanswm o 169,754 o bobol wedi’u heintio yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.

“Mae nifer yr achosion coronafeirws positif yn dal yn eithriadol o uchel yng Nghymru ac mae’n destun pryder difrifol,” meddai.

Bydd y cyfyngiadau sydd wedi bod mewn grym ers Rhagfyr 20 yn parhau am dair wythnos arall, gyda rhagor o gyfyngiadau ar archfarchnadoedd, gweithleoedd ac ysgolion, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.

Bydd ysgolion a cholegau ynghau i’r mwyafrif o ddisgyblion a myfyrwyr tan ganol mis Chwefror oni bai bod gostyngiad sylweddol mewn achosion, meddai.

Brechlynnau

Dywed Dr Robin Howe fod pobol yn dal i gael eu brechu â brechlynnau coronafeirws Pfizer/BioNTech ac AstraZeneca, ac y bydd brechlyn Moderna ar gael yn fuan.

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru, gan alw am “fyddin frechu” er mwyn cyflymu’r broses.

Erbyn Ionawr 3, dim ond 49,000 o ddosau allan o 270,000 oedd wedi cael eu rhoi i bobol yng Nghymru.

Serch hynny, mae Mark Drakeford yn gwadu bod Cymru ar ei hôl hi o’i chymharu â gwledydd eraill Prydain.