Mae deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu “cyllid teg” i Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn dros 1,000 o lofnodion o fewn 24 awr.
Ym mis Tachwedd y llynedd fe wnaeth Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol, ddisgrifio cyflwr ariannol y sefydliad, a’i pherthynas â Llywodraeth Cymru fel sefyllfa “hollol anghynaladwy”.
Fodd bynnag, mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Dafydd Elis Thomas AoS, wedi dweud nad yw’r Llyfregell yn cael ei thrin yn “annheg”.
Mae golwg360 yn deall y bydd swyddogion y Llyfrgell yn cwrdd â’r Dirprwy Weinidog yfory (dydd Iau 21 Ionawr).
Y ddeiseb
Ers i’r ddeiseb gael ei chreu ddoe (Ionawr 19), mae wedi ei rhannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol, gyda neges glir yn amlygu’r amcanion:
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd, ystorfa i drysorau hanesyddol, artistig a deallusol Cymru,” meddai’r ddeiseb.
“Heb ragor o gymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd 30 o swyddi’n cael eu colli a gwasanaethau’n cael eu cwtogi’n ddifrifol,” amlyga’r ddeiseb.
“Mae rhyddid, ffyniant a datblygiad cymdeithas ac unigolion yn werthoedd dynol sylfaenol, a geir gan ddinasyddion gwybodus sydd â mynediad diderfyn at syniadaeth, diwylliant a gwybodaeth.”
“Un o’r sefydliadau fwyaf pwysig”
Dywedodd y Cynghorydd Tref a chyn-Faer Aberystwyth, Sue Jones-Davies, a sefydlodd y ddeiseb, wrth golwg360 y byddai sefyllfa’r Llyfrgell yn cael effaith sylweddol ar y gymuned leol yn Aberystwyth, ond y byddai’r effaith hefyd yn fwy pellgyrhaeddol na hynny.
“Dyma un o’r sefydliadau fwyaf pwysig sydd ganddon ni yng Nghymru,” meddai, “ac os yw’r toriadau yma’n mynd ymlaen, mae’n bownd o effeithio ar y gwasanaethau mae’r llyfrgell yn ei roi i’r gymuned leol ac i gymunedau ar draws y byd.
“Mae’r llyfrgell hwn yn cael ei adnabod ym mhob man, nid dim ond yng Nghymru, ac ni eisiau cadw’r safle ar lwyfan y byd.
“Dydi hyn ddim yn effeithio dim ond Aber,” meddai, “ond mae’n effeithio Cymru ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n dweud hang on am funud, dydych chi ddim yn mynd i gymryd ein diwylliant ni… ein celfyddydau ni.
Dywedodd y Cynghorydd bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu rhesymeg glir dros eu penderfyniadau a gweithredu yn unol â’r argymhellion sydd wedi eu hamlygu mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd.
“Nid busnes yw’r Llyfrgell Genedlaethol”
“Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnal adroddiad i weld beth oedd angen ar y llyfrgell,” meddai Sue Jones-Davies, “ac un o’r prif gasgliadau oedd bod angen cyllid ychwanegol er mwyn i’r llyfrgell allu cyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.
“Ond, maen nhw wedi anwybyddu’n llwyr prif gasgliad yr adroddid – hyd yn oed pan mai nhw oedd wedi gofyn iddo gael ei wneud! Dydi hynny ddim yn gwneud synnwyr i mi.
Mae’r adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn amlygu bod incwm y Llyfrgell wedi cwympo 40% – mewn termau real – rhwng 2008 a 2019, a hynny cyn y pandemig.
“Nid busnes yw’r Llyfrgell Genedlaethol,” meddai, “ma’ fe’n sefydliad diwylliannol ac mae gweld e’n cael ei dorri fel hyn a’i gam-ariannu, mae’n codi ofn.
“Rhaid inni beidio anwybyddu ein hunain”
Mae Sue Jones-Davies yn erfyn ar bobl o bedwar ban byd i arwyddo’r ddeiseb.
“Os dwyt ti ddim yn ymladd dros beth ti’n feddwl sy’n bwysig, mae bywyd yn mynd yn ddiflas iawn,” meddai.
“Ni’n gorfod sefyll a dweud hang on – diwylliant ni yw hwn, ni’n cael digon o bethau o Lundain sy’n anwybyddu ni, rhaid inni beidio anwybyddu ein hunain – mae hynny yn gwneud fi’n grac.
“Ni’n gorfod dweud, mae hyn yn bwysig… bwysig i ni a sa’i eisiau gweld e’n cael ei roi i un ochr.”
Mae’r Cynghorydd yn bwriadu cyflwyno cynnig o flaen y Cyngor Tref Aberystwyth dydd Llun (Ionawr 25), i roi pwysau ychwanegol ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael a’r mater.