Mae pob un o sefydliadau diwylliannol Cymru – gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol – wedi’u trin yn gydradd, yn ôl y Dirprwy Weinidog Diwylliant.
Daeth sylwadau Dafydd Elis-Thomas yn ystod sesiwn ag un o bwyllgorau’r Senedd ynghylch sefyllfa ariannol y llyfrgell yn Aberystwyth.
Yn siarad â’r pwyllgor fore heddiw (Tachwedd 12) dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr y Llyfrgell, bod sefyllfa ariannol y sefydliad yn “hollol anghynaladwy”, a bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu.
Pan ddaeth tro’r Dirprwy Weinidog i siarad â’r Pwyllgor Diwylliant dywedodd bod cyllidebau holl gyrff diwylliannol cenedlaethol Cymru wedi’u rhewi, a bod y llyfrgell heb gael ei thrin yn “annheg”.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi trin y sefydliadau cenedlaethol yma yn gydradd,” meddai.
“O ran refeniw, mae cyllidebau’r sefydliadau yma wedi cael eu rhewi, ac mae hynny wedi effeithio ar bob un o’r sefydliadau yna mae arna’i ofn,” meddai wedyn.
“Dw i ddim yn credu ei fod yn bosib dadlau bod y llyfrgell wedi ei thrin yn annheg o gymharu â’r sefydliadau mawr cenedlaethol dw i eisoes wedi’u henwi,” meddai.
“Er enghraifft yr Ardd Fotaneg a’i gwaith gwyddonol ac yn amlwg holl weithgarwch yr Amgueddfa Genedlaethol.”
Sefyllfa’r llyfrgell
Ym mis Medi cyhoeddwyd casgliadau ‘adolygiad teilwredig’ (gan banel annibynnol) i sefyllfa ariannol y llyfrgell, ac argymhellwyd y dylid rhoi “sylw brys” i ofynion ariannol y sefydliad.
‘Argymhelliad tri’ yw’r argymhelliad yma, ac mae Pedr ap Llwyd wedi dweud bod dyfodol y llyfrgell yn ddibynnol ar barodrwydd y Llywodraeth i fynd i’r afael ag ef.
Bu David Michael, Dirprwy Brif Weithredwr y llyfrgell, hefyd yn rhoi diweddariad o’r sefyllfa gerbron Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Dywedodd yntau bod niferoedd staff wedi disgyn dros amser o tua 300, i tua 225, ac y byddai angen cwtogi 30 yn rhagor dros y 12 mis nesa’ er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.
Er mwyn osgoi gorfod gwneud y fath doriadau byddai angen “o leiaf £1.5m yn rhagor ar gyfer refeniw gwaelodol”, meddai.
Dywedodd bod “grantiau a chymorth [atom] wedi aros ar yr un lefel ond mae costau cyflogau wedi cynyddu.
“Dw i wedi cynnal lefel cyllid y llyfrgell – nid mewn termau real…”
Wrth drafod sefyllfa ariannol y llyfrgell, mi wnaeth y Dirprwy Weinidog gydnabod bod cyllid y sefydliad wedi aros yr un fath, a’i fod heb gynyddu dros amser.
Ond pwysleisiodd mai dim ond sefydliadau penodol – ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac ati – sydd wedi profi cynnydd.
“Dw i ddim yn derbyn ein bod ni wedi gwneud toriadau,” meddai. “Dw i wedi cynnal lefel cyllid y llyfrgell – nid mewn termau real.
“Ond does dim un sefydliad llywodraethol gan eithrio blaenoriaethau mawr fel iechyd … wedi profi unrhyw beth oni bai am gyllid sefydlog.
“A beth wnes i geisio sicrhau i’r sefydliadau oedd ein bod ni ddim yn gwneud toriadau pellach neu ostyngiadau pellach. A dw i ddim yn credu bod hynny wedi digwydd.”
Dyfodol digidol
Pan holwyd am ei farn ef ynghylch cynlluniau’r llyfrgell i weithredu argymhellion yr adroddiad, dywedodd nad ei rôl ef yw “rheoli pob rhan (micromanage) o’n sefydliadau diwylliannol” .
Dywedodd bod ganddo “safbwyntiau clir ynghylch sut y dylai sefydliadau cenedlaethol weithredu”, ond mai mater i’r llyfrgell oedd “ystyried sut y dylai ddatblygu ei hun”.
Soniodd sawl gwaith am ei awydd i weld y llyfrgell yn manteisio ar dechnoleg ddigidol, ac awgrymodd y dylai bod mwy o gydweithio rhwng llyfrgelloedd ac amgueddfeydd cenedlaethol.
Cafodd ei holi am ei farn ynghylch pa mor gynaliadwy yw sefyllfa’r Llyfrgell Genedlaethol, ond atebodd trwy ddweud na fyddai’n “gwneud asesiad o benderfyniadau mewnol” y corff.