Mae ymchwiliad gan y rheoleiddiwr cydraddoldeb wedi dweud nad oedd y BBC wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn menywod wrth benderfynu ar gyflogau.

Ond mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi argymell gwneud gwelliannau i adfer ymddiriedaeth gweithwyr benywaidd  a gwella tryloywder.

Mae’r adroddiad yn dweud bod y BBC yn derbyn nad oedd ei ganllawiau hanesyddol yn addas i’r pwrpas ac mae wedi gwneud newidiadau sylweddol ers 2015.

Fe ddarganfu bod anghysonderau yn y modd roedd cofnodion yn cael eu cadw ynglŷn â phenderfyniadau am gyflogau, gan arwain at ddryswch a chyfathrebu gwael gyda menywod oedd yn gwneud cwyn.

Dywedodd cadeirydd dros dro EHRC bod “nifer o fenywod yn teimlo nad oedd eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn teimlo dryswch ynglŷn â sut roedd penderfyniadau am eu cyflogau yn cael eu gwneud.

“Roedd hyn wedi achosi pwysau emosiynol ar y rhai oedd yn gysylltiedig â’r broses.”

Ychwanegodd bod angen i’r BBC fynd ati i “wella’r niwed sydd wedi ei achosi” gan y materion yma a’i bod yn gobeithio y bydd bwrdd y gorfforaeth yn bwrw ymlaen gyda’u hargymhellion.

Roedd EHRC wedi dechrau ymchwiliad i gyflogau cyfartal yn y BBC ym mis Mawrth y llynedd yn dilyn cyfres o gwynion gan weithwyr benywaidd ar ôl i’r BBC gyhoeddi cyflogau’r rhai sy’n ennill y tal mwyaf yn 2017.

Mae cadeirydd y BBC Syr David Clementi a’r cyfarwyddwr cyffredinol newydd Tim Davie, wedi croesawu’r adroddiad gan ddweud y byddan nhw’n “gweithio’n galetach” i arwain yn y maes.