Roedd methiant hir-dymor Network Rail i wella diogelwch gweithwyr ar y rheilffyrdd yn un o’r ffactorau oedd wedi arwain at farwolaeth dau weithiwr gafodd eu lladd ar ôl cael eu taro gan drên ger Port Talbot y llynedd, yn ôl adroddiad.

Bu farw Gareth Delbridge, 64, a Michael Lewis, 58, pan gawson nhw eu taro gan drên ar Orffennaf 3 y llynedd.

Dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 12): “Dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, nid yw Network Rail wedi mynd i’r afael a diogelu gweithwyr ar y cledrau yn ddigonol.”

Ychwanegodd: “Er bod Network Rail wedi cydnabod yr angen i weithredu ymhellach i wella diogelwch gweithwyr ar y rheilffyrdd, nid oedd hynny wedi arwain at newid sylweddol cyn y ddamwain ym Margam.”

“Dyled”

Dywedodd Martin Frobisher, cyfarwyddwr dioglewch Network Rail eu bod yn dal i alaru am Gareth Delbridge a Michael “Spike” Lewis a bod eu meddyliau yn parhau gyda’u teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr.

“Mae dyled arnon ni i Gareth a Spike i wneud popeth yn ein gallu i atal trasiedi arall ar ein rheilffyrdd.

“Dyna pam ry’n ni’n croesawu’r argymhellion yma gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd, sy’n ategu ein hadroddiad ni yn gynharach eleni, ac sy’n rhoi gwell dealltwriaeth o’r hyn aeth o’i le.

“Ry’n ni eisoes wedi cymryd camau i wella diogelwch i weithwyr rheilffordd, a gwneud newidiadau i sut mae’r gwaith yn cael ei gynllunio a’i weithredu.”

“Rhaid i ddiogelwch fod yn flaenoriaeth”

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol undeb y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), Mick Cash, mae’r adroddiad yn “codi nifer o bryderon yn ymwneud a safonau’r diwydiant, prosesau a threfniadau, ac yn ategu nifer o’r pryderon ynglŷn â diogelwch gweithwyr ar y cledrau sydd wedi cael eu codi gan yr RMT ers nifer o flynyddoedd.

“Rhaid i bawb yn y diwydiant ystyried goblygiadau’r adroddiad er mwyn sicrhau bod diogelwch ar y rheilffyrdd yn brif flaenoriaeth a gwneud y newidiadau angenrheidiol gyda’r nod o atal marwolaethau ac anafiadau difrifol.”

Ychwanegodd y bydd yr RMT yn parhau i gyd-weithio gyda Network Rail i bwyso am y safonau diogelwch gorau posib i ddiogelu eu haelodau.