Mae sefyllfa ariannol y Llyfrgell Genedlaethol, a’i pherthynas â Llywodraeth Cymru yn “hollol anghynaladwy”.

Dyna ddywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr y Llyfrgell, gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 12).

Ym mis Medi cyhoeddwyd casgliadau ‘adolygiad teilwredig’ (gan banel annibynnol) i sefyllfa ariannol y llyfrgell, ac argymhellwyd y dylid rhoi “sylw brys” i ofynion ariannol y sefydliad.

‘Argymhelliad tri’ yw’r argymhelliad yma, ac mae Pedr ap Llwyd wedi dweud bod dyfodol y llyfrgell yn ddibynnol ar barodrwydd y Llywodraeth i fynd i’r afael ag ef.

“Dw i’n rhagweld y byddwn wedi mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r argymhellion erbyn mis Ebrill nesa’ – erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma,” meddai.

“Wedi dweud hynny mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion yn hollol ddibynnol ar lefel y cyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Mae llwyddiant gweithredu’r cynllun gweithredu yn dibynnu’n llwyr ar ba raddau mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael ag argymhelliad tri yn yr adroddiad.

“Ym marn y llyfrgell dyna’r argymhelliad mwyaf pwysig o ran sefyllfa ariannol bresennol y llyfrgell a’i pherthynas gyda Llywodraeth Cymru – sydd yn hollol anghynaladwy.”

Argymhelliad tri

Wele argymhelliad tri o adroddiad yr ‘adolygiad teilwredig’ isod:

“Argymhellwn y dylid rhoi sylw brys i ofynion ariannol  y Llyfrgell, ac y dylai’r Llyfrgell amlinellu ei awgrymiadau ar gyfer anghenion cyllidebol digonol dros y pum mlynedd nesaf i’r Dirprwy Weinidog am Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth,  er mwyn er mwyn esbonio sut fydd yn medru cyflawni ei swyddogaethau craidd.

“Argymhellwn fod y Llywodraeth Cymru yn adolygu anghenion cyllido y Llyfrgell ar sail yr adroddiad yma. Nid yw panel yr adolygiad hwn yn credu fod y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.”

Darlun ariannol llwm

Bu David Michael, Dirprwy Brif Weithredwr y Llyfrgell, hefyd yn rhoi diweddariad o’r sefyllfa gerbron Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Dywedodd yntau bod niferoedd staff wedi disgyn dros amser o tua 300, i tua 225, ac y byddai angen cwtogi 30 yn rhagor dros y 12 mis nesa’ er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.

Er mwyn osgoi gorfod gwneud y fath doriadau byddai angen “o leiaf £1.5m yn rhagor ar gyfer refeniw gwaelodol”, meddai.

“Yn ei hanfod mae grantiau a chymorth [atom] wedi aros ar yr un lefel ond mae costau cyflogau wedi cynyddu,” meddai.

“Rydym wedi cynyddu cyflogau ac i dalu am hynny rydym wedi gorfod colli niferoedd staff. Rydym mewn sefyllfa yn awr lle mae grantiau a chymorth [atom] yn is nag oedd yn 2006.

“A dros y cyfnod yna rydym wedi bod yn colli staff.”

Ategodd bod y llyfrgell, sydd wedi’i lleoli yn Aberystwyth, yn “rhedeg allan o opsiynau o ran dulliau i gwtogi” ac mai cyllid preifat (rhoddion, ac ati) oedd yr unig “opsiwn ariannu arall”.

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Dafydd Elis Thomas AoS, wedi ymateb drwy ddweud bod pob un o sefydliadau diwylliannol Cymru – gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol – wedi’u trin yn gydradd.