Mae meddygon blaenllaw wedi dweud ei bod yn hanfodol bod “gwersi’n cael eu dysgu” o’r pandemig gan fod nifer y marwolaethau swyddogol yn y Deyrnas Unedig yn fwy na 50,000.

Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain fod y ffigurau’n gondemniad ofnadwy o ddiffyg paratoi a threfniadaeth y Llywodraeth o ran ymdrin â’r feirws.

Dangosodd data diweddaraf y Llywodraeth fod 50,365 o bobl wedi marw yn y DU o fewn 28 diwrnod o brofi’n bositif ar gyfer y coronafeirws, gan ei gwneud y wlad gyntaf yn Ewrop i fod â mwy na 50,000 o farwolaethau.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Dr Chaand Nagpaul, cadeirydd cyngor Cymdeithas Feddygol Prydain: “Mae hwn yn bwynt na ddylid bod wedi’i gyrraedd erioed.

“Ym mis Mawrth, dywedodd yr Athro Steve Powis pe bai’r cyhoedd yn cadw at gyfyngiadau’r clo cenedlaethol y gellid cadw cyfanswm y doll o dan 20,000.

“Mae’r ffigur heddiw yn gondemniad ofnadwy o baratoi gwael, trefniadaeth wael gan y Llywodraeth, mesurau rheoli heintiau annigonol, ynghyd â negeseuon hwyr sy’n aml yn ddryslyd i’r cyhoedd.”

Ychwanegodd: “Wrth i ni edrych tuag at y gobaith o gael brechlyn, mae’n hanfodol bod gwersi’n cael eu dysgu o’r naw mis diwethaf i sicrhau nad oes dim ar y raddfa hon byth yn digwydd eto.”

Gwyddonwyr yn obeithiol ynghylch y posibilrwydd o frechlyn

Yn y cyfamser, mae gwyddonwyr yn parhau’n obeithiol ynghylch y posibilrwydd o frechlyn, gyda dirprwy brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Jonathan Van-Tam, yn dweud bod y Llywodraeth yn paratoi ar gyfer y rhaglen frechu bwysicaf “ers degawdau”.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson y dylai pawb sy’n gymwys “yn bendant” gael brechlyn wrth iddo wfftio dadleuon y rhai sy’n gwrthwynebu’r brechlyn fel “nonsens llwyr”.

Yn ystod ymweliad â chanolfan ddosbarthu archfarchnadoedd yn ne-ddwyrain Llundain, dywedodd ei bod yn hanfodol sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn manteisio ar y brechlyn pan fydd wedi cael trwydded i’w ddefnyddio.

“Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad ynghylch cael brechlyn,” meddai Boris Johnson wrth ohebwyr.

“Carreg filltir ddifrifol”

Yn y cyfamser, dywedodd yr arweinydd Llafur Syr Keir Starmer fod marwolaethau’r DU yn “garreg filltir ddifrifol” arall yn y pandemig, gan gyhuddo’r Llywodraeth o fod yn rhy araf i weithredu unwaith eto wrth iddi ddechrau yn y cam diweddaraf.

“Mae’n ddyletswydd arnom i’r holl deuluoedd sy’n galaru i fynd i’r afael a’r feirws a chael brechlyn a dyna y mae’n rhaid i’r Llywodraeth ganolbwyntio’n llwyr arno nawr,” meddai.

Dim disgwyl i’r broses o gyflwyno brechlyn ddechrau tan y flwyddyn nesaf

Mae Gweinidogion wedi dweud nad ydynt yn disgwyl i’r broses o gyflwyno brechlyn ddechrau tan y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Downing Street na fyddai ar gael nes bod y rheoleiddiwr, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), yn fodlon ei fod yn ddiogel.

“Bydd unrhyw frechlynnau sy’n cael eu defnyddio yn cael cyfres trylwyr o wiriadau diogelwch, byddant yn gwbl ddiogel i’r cyhoedd eu defnyddio,” meddai llefarydd swyddogol y Prif Weinidog.