Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnhau achosion o’r coronafeirws yng nghwmni trin cig Dunbia, ar eu safle yn Llanybydder.

Nid oedd modd i’r Cyngor gadarnhau sawl achos positif sydd yno.

Dyma un o ddau safle’r cwmni yng Nghymru, gyda’r llall yn Llanelli.

Datganiad

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Yn anochel wrth i Covid-19 barhau i ledaenu rydym yn debygol o gael achosion yn y rhan fwyaf o leoliadau, gan gynnwys cyflogwyr mawr.

“Fel awdurdod lleol, rydym yn cefnogi busnesau, yn enwedig y rheiny sy’n cyflogi nifer fawr o bobl leol, i sicrhau bod mesurau diogelu cadarn ar waith.

“Yn anffodus, mae trosglwyddiad Covid-19 yn parhau i fod yn broblem mewn llawer o gymunedau ac felly rydym yn debygol o weld hyn yn effeithio ar rai gweithleoedd. “

“Byddwn yn parhau i roi ein cefnogaeth drwy Profi, Olrhain, Diogelu a dulliau eraill i sicrhau y cedwir yn llym at y canllawiau.”