Roedd economi’r Deyrnas Unedig wedi gweld twf sylweddol o 15.5% rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni wrth ddod allan o ddirwasgiad, yn ôl ffigurau sylweddol.
Ond roedd y twf wedi arafu’n sydyn cyn i’r ail gyfnod glo ddechrau.
Yn ôl Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd y twf yn nhrydydd chwarter y flwyddyn ar ei uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1955 a hynny yn sgil llacio’r cyfyngiadau yn dilyn y cyfnod clo yn y gwanwyn.
Roedd yr economi wedi gwella’n sylweddol ar ôl crebachu 19.8% yn yr ail chwarter.
Ond roedd y twf wedi arafu ym mis Medi ar ôl i gynllun y Llywodraeth i annog pobl i gefnogi bwytai ddod i ben. Roedd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) dal 8.2% yn is na’r lefelau ym mis Chwefror cyn yr argyfwng coronafeirws.
Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi rhybuddio bod y twf yn debygol o arafu ymhellach yn y chwarter olaf gan ddweud bod “amser caled o’n blaenau”.
Mae arbenigwyr yn rhagweld gostyngiad mawr mewn GDP y mis hwn oherwydd yr ail gyfnod clo yn Lloegr.
Roedd Banc Lloegr wedi darogan wythnos ddiwethaf y byddai’r economi yn crebachu 2% yn chwarter ola’r flwyddyn.