Mae disgwyl i nyrs fynd gerbron llys ar gyhuddiad o wyth achos o lofruddiaeth yn dilyn ymchwiliad i farwolaethau babis mewn ysbyty yng Nghaer.

Cafodd Lucy Letby, 30, ei harestio am y trydydd tro ddydd Mawrth (Tachwedd 10) fel rhan o ymchwiliad i Ysbyty Iarlles Caer, a ddechreuodd yn 2017.

Mae Lucy Letby, o Henffordd, hefyd yn wynebu 10 cyhuddiad o geisio llofruddio yn y cyfnod rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Warrington heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 12).

Dywedodd Heddlu Swydd Caer bod rhieni’r holl fabis oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad wedi cael eu hysbysu am y datblygiadau ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion.

Cafodd Lucy Letby ei harestio yn 2018 a 2019 a’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.