Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ‘Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan’ i leihau’r risg o ffliw adar yn dilyn achosion diweddar yn Lloegr, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Bu canfyddiadau o Ffliw Adran Pathogenig mewn adar domestig a gwyllt yn Lloegr dros y bythefnos ddiwethaf.
Mae asesiad risg wedi’i gynnal gan filfeddygon sy’n dangos bod lefel y risg mewn adar gwyllt bellach yn uchel.
Nid oes achos o Ffliw Adar yng Nghymru ar hyn o bryd, ond fel ymateb rhagofalus, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ‘Parth Atal Ffliw Adar’ ar gyfer Cymru Gyfan.
Bydd yn cyflwyno mesurau bioamrywiaeth ar gyfer pob ceidwad adar, meddai Llywodraeth Cymru.
Bydd yn ofynnol i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill, waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau, megis:
- Sicrhau nad yw’r ardaloedd lle mae’r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt.
- Bwydo a dyfrio’ch adar mewn ardal gaeedig rhag denu adar gwyllt.
- Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar.
- Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus.
- Lleihau unrhyw halogi sy’n bodoli eisoes drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.
“Rheoli’r risg”
“Fel mesur rhagofalus, mewn ymateb i’r cynnydd yn y risg ac i leihau’r risg o heintio, rwy’n datgan Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru Gyfan,” meddai Lesley Griffiths.
“Er nad oes achosion o Ffliw Adar yng Nghymru, bydd y Parth Atal hwn a’r galw am fioddiogelwch gwell yn helpu inni reoli’r risg a lledaeniad yr haint. Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd camau i warchod ein diwydiant dofednod, masnach ryngwladol a’r economi ehangach yng Nghymru.”
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop: “Rydym yn gweithredu’n gyflym mewn ymateb i’r canfyddiadau diweddar yn Lloegr ac yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn ofalus. “Bydd angen i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio gyda gofynion gorfodol ychwanegol y Parth Atal Ffliw Adar.
“Mae’n bwysicach nag erioed bod ceidwaid adar yn sicrhau eu bod yn gwneud popeth y gallant i ymarfer y lefelau uchel o fioddiogelwch ac yn parhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd.”