Mae un o brif ymgynghorwyr Boris Johnson yn Rhif 10 wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo.

Daeth cyhoeddiad Lee Cain ei fod yn rhoi’r gorau i’w swydd fel cyfarwyddwr cyfathrebu yn hwyr nos Fercher (Tachwedd 11).

Mae’n dilyn adroddiadau o densiynau a rhwygiadau yn Downing Street ac mae na ddyfalu y gall Dominic Cummings, prif ymgynghorydd y Prif Weinidog, ddilyn Lee Cain.

Roedd Dominic Cummings a Lee Cain wedi gweithio gyda’i gilydd ar ymgyrch Vote Leave yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Yn ôl adroddiadau mae Dominic Cummings yn anhapus gyda’r ffordd mae Lee Cain wedi cael ei drin ond ei fod wedi penderfynu aros yn ei swydd am y tro er mwyn helpu gydag ymateb y Llywodraeth i’r coronafeirws.

“Ystyried yn ofalus”

Yn ei ddatganiad, dywedodd Lee Cain ei fod wedi cael cynnig dyrchafiad fel pennaeth staff Boris Johnson. Ond yn ôl adroddiadau roedd nifer yn Rhif 10, gan gynnwys dyweddi’r Prif Weinidog, Carrie Symonds, wedi gwrthwynebu’r penodiad. Mae’n debyg ei bod hi wedi gwrthdaro gyda Dominic Cummings yn y gorffennol.

Ychwanegodd Lee Cain ei fod wedi “ystyried yn ofalus” ei benderfyniad i ymddiswyddo a’i fod wedi bod yn “anrhydedd” cael cynnig swydd pennaeth staff Boris Johnson, gan ddiolch iddo am ei “deyrngarwch a’i arweiniad”.

Mewn ymateb, roedd Boris Johnson wedi canmol “gwasanaeth anhygoel” Lee Cain i’r Llywodraeth dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Mae disgwyl y bydd James Slack, llefarydd swyddogol y Prif Weinidog, yn olynu Lee Cain.

Daw’r datblygiadau diweddaraf yn dilyn anfodlonrwydd cynyddol ymhlith nifer o Aelodau Seneddol i berfformiad Rhif 10 am y modd mae wedi delio gyda’r pandemig.

“Diffyg ffocws”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: “Ar y diwrnod y cyhoeddwyd mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gofnodi 50,000 o farwolaethau coronafirws a bod y cyhoedd wedi dioddef diwrnod arall o’r cyfnod clo, mae Llywodraeth Boris Johnson yn ymladd dros bwy sy’n cael pa swydd.

“Yr union ddiffyg ffocws a blerwch yma sydd wedi dal Prydain yn ôl. Mae’r cyhoedd yn haeddu gwell.”