Mae dros 5,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi grymoedd i Awdurdodau Lleol er mwyn rheoli’r farchnad dai.

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r Senedd gynnal dadl ar y ddeiseb.

Bydd raliau yn cael eu cynnal yn Llanberis, Caerfyrddin ac Aberaeron wythnos i ddydd Sadwrn (21 Tachwedd) i gyd-fynd â’r ddeiseb.

Bydd darpar ymgeisydd Seneddol dros Ddwyfor-Meirionydd Mabon ap Gwynfor, yr aelod cabinet yn Sir Gâr â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Cefin Campbell, a’r ymgyrchydd Mirain Iwerydd yn siarad yn y rali.

“Mae’r ffaith fod y ddeiseb mor llwyddiannus yn amlygu’r teimladau cryfion sydd yn ein cymunedau ynghylch y mater hwn ac yn profi bodolaeth yr argyfwng ail gartrefi – argyfwng sydd â chanlyniadau ieithyddol ac economaidd gwbl ddinistriol,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ Cymdeithas yr Iaith.

“Dylai Llywodraeth Cymru wrando ar y neges yma a gweithredu i sicrhau dyfodol ein cymunedau.”

“Blaenoriaeth cymunedau, nid cyfalafiaeth”

Ychwanegodd Mabli Siriol, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae anhawster pobl ifanc i gael cartrefi yn eu cymunedau yn arwydd o broblem yn y farchnad dai ledled Cymru.

“Y broblem sylfaenol yw mai’r farchnad agored sy’n rheoli. Mae angen rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai i sicrhau cartrefi i bobl.

“Rhaid i’r Llywodraeth roi pecyn brys o rymoedd i Awdurdodau Lleol i reoli’r farchnad dai, ac mae rhai i’r pleidiau gwleidyddol ymrwymo at Ddeddf Eiddo yn y Senedd nesaf i fynd at wraidd y broblem.

“Ond tra bo Llywodraeth Cymru’n gweithredu oddi fewn fframwaith bolisi sy’n blaenoriaethu elw i rai dros gartref i bawb, ni ellir datrys yr argyfwng hwn. Mae angen i wleidyddion wneud y peth iawn a phenderfynu am unwaith i flaenoriaethu cymunedau, nid cyfalafiaeth.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod penderfyniadau lleol yn cael eu cyfuno â mesurau effeithiol ledled Cymru, sy’n cefnogi cymunedau a’r iaith Gymraeg ffyniannus.

“Cymru yw’r unig genedl yn y DU sydd wedi rhoi pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol gymhwyso premiwm o hyd at 100% ar filiau’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor. Cyflwynwyd hyn i helpu awdurdodau lleol i reoli materion sy’n effeithio ar gyflenwad tai lleol yn hytrach na mesur codi refeniw.

“Rydym yn cydnabod y materion y mae hyn yn parhau i’w hachosi mewn rhai cymunedau yn y Gogledd yn arbennig, a’r angen i ddod o hyd i atebion pwrpasol i’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt, i sicrhau nad yw pobl yn cael eu prisio allan o’r ardaloedd y cawsant eu geni a’u magu ynddynt, tra rydym hefyd yn parhau i gefnogi ein diwydiannau twristiaeth brodorol.”