Mae nyrs sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio wyth babi mewn ysbyty yng Nghaer wedi’i chadw yn y ddalfa.

Cafodd Lucy Letby, 30, ei harestio am y trydydd tro ddydd Mawrth (Tachwedd 10) fel rhan o ymchwiliad i Ysbyty Iarlles Caer, a ddechreuodd yn 2017.

Mae Lucy Letby, o Henffordd, hefyd yn wynebu 10 cyhuddiad o geisio llofruddio yn y cyfnod rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Ymhlith enwau’r babis gafodd eu henwi yn y llys mae Cemlyn Bennett, Joseph Johnson, Elsie McNall, Barney Gee, Daisy Parkin, Maddie Freed, Joseph Gelder ac Eli Gelder.

Cafodd Lucy Letby ei chadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos drwy gysylltiad fideo ar gyfer y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Warrington heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 12).

Mae disgwyl iddi ymddangos gerbron Llys y Goron Caer ddydd Gwener (Tachwedd 13).

Dywedodd Heddlu Swydd Caer bod rhieni’r holl fabis oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad wedi cael eu hysbysu am y datblygiadau ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion.

Cafodd Lucy Letby ei harestio yn 2018 a 2019 a’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.