Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwch Efrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill.
Mae’r academydd adnabyddus yn arbenigo ar lefel ryngwladol ym maes ieithoedd lleiafrifol, sosioieithyddiaeth, polisi a chynllunio iaith, polisi diwylliannol, y cyfryngau a chyfieithu llenyddol.
Cyn ymuno a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant llynedd, bu’n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Daeth yn Gyfarwyddwr y Gymraeg a Diwylliant Cymru yno, gyda chyfrifoldeb am chwe adran academaidd, gan gynnwys Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
“Mae hi’n fraint aruthrol”
“Mae hi’n fraint aruthrol cael arwain y Ganolfan ar gyfnod cyffrous yn ei hanes,” meddai’r Athro.
“Mae ei gwaith ymchwil a’i chyfraniad ysgolheigaidd yn eithriadol bwysig i Gymru, y Gwledydd Celtaidd ac yn rhyngwladol.
“Mae yma sylfeini cadarn i adeiladu ar y llwyddiant hwn, a chyfle i’r Ganolfan ymestyn ei meysydd arbenigol a chadarnhau ei lle ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Gydag eleni’n ganmlwyddiant Geiriadur Prifysgol Cymru, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r afael â’r gwaith ac at gydweithio gyda’r staff ac â holl bartneriaid y Ganolfan.”
Ers dros ugain mlynedd, mae wedi bod arwain prosiectau ymchwil rhyngwladol a chyfarwyddo gwaith Mercator sy’n gartref i Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.
“Academydd uchel ei pharch”
“Edrychaf ymlaen at gydweithio gydag Elin er mwyn hyrwyddo a meithrin enw da’r Ganolfan am ei hymchwil ryngwladol,” meddai’r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Daw â phrofiad ac arbenigedd helaeth i’r rôl a fydd yn gweld y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu ei meysydd arbenigol ynghyd ag ystod ei phartneriaethau cydweithredol ar draws y byd”.
Yn 2017, fe’i hapwyntiwyd yn aelod o Grŵp Arbenigol Cyngor Ewrop ar gyfer Siarter Ewropeaidd Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol ac ers 2019 mae’n Is-lywydd ELEN (European Language Equality Network).
Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-ganghellor y Brifysgol:
“Rwy’n falch iawn o groesawu’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones i rôl y Cyfarwyddwr ac i ddatblygiad y Ganolfan yn y dyfodol o dan ei harweinyddiaeth.
“Mae’r Athro Jones yn academydd uchel ei pharch a phrofiadol sy’n ymgymryd â’r rôl ar adeg gyffrous yn ein hanes.”