Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai athrawon fydd yn pennu graddau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru eleni.

Roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, eisoes wedi cael gwared ar arholiadau diwedd blwyddyn 2021 oherwydd y pandemig.

Mae hi bellach wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr yn derbyn graddau o’u hysgol neu goleg yn seiliedig ar waith maen nhw wedi’i gwblhau dros gyfnod eu cwrs – ac ni fydd terfynau amser ar gyfer gwaith cwrs neu asesiadau eraill.

Bydd athrawon a darlithwyr yn rhoi graddau ar gyfer dysgwyr gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth, a allai gynnwys deunydd safonol y bydd CBAC yn ei ddarparu ar eu cyfer (megis hen bapurau wedi’u haddasu), gwaith cwrs, ac arholiadau ffug.

Ond ni fydd asesiadau allanol ffurfiol eleni.

“Mae’r sefyllfa sy’n gwaethygu gyda’r pandemig wedi golygu nad oes gennym ddewis ond ailedrych ar ein dull o sicrhau lles a hyder y cyhoedd yn ein system gymwysterau,” meddai’r Gweinidog.

“Mae’r cynigion rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn ymddiried yng ngwybodaeth athrawon a darlithwyr am waith eu dysgwyr, yn ogystal â’u hymrwymiad i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael i gefnogi dilyniant dysgwyr.

“Mae addysgu cynnwys craidd ac agweddau pob cwrs yn parhau i fod yn flaenoriaeth absoliwt i ddysgwyr ym mlynyddoedd arholiadau, felly fe’u cefnogir i symud ymlaen gyda sicrwydd i’w camau nesaf, gyda hyder yn eu graddau.

Gwnaeth Ms Williams y penderfyniad yn seiliedig ar argymhellion gan grŵp cynghori yn cynnwys penaethiaid ac arweinwyr colegau, a sefydlwyd ym mis Rhagfyr.

Roedd 6,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganslo asesiadau sy’n cael eu marcio’n allanol ar gyfer Lefel A a TGAU yn 2021.

‘Fframwaith asesu’

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: “Rydym yn gwybod bod dysgwyr yn awyddus i ddeall sut y bydd cymwysterau yn cael eu dyfarnu’r haf hwn, a bod athrawon a darlithwyr mewn ysgolion a cholegau am ddeall beth mae’n ei olygu iddyn nhw.

“Ar ôl gweithio gyda grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni’r Gweinidog, a chan adlewyrchu penderfyniad polisi’r Gweinidog, rydym yn newid ein rheoliadau ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch cymeradwy yng Nghymru i ganiatáu i ysgolion a cholegau benderfynu ar raddau – graddau a bennir gan ganolfan.

“Credwn bellach mai dyma’r ffordd orau o ddyfarnu graddau o dan amgylchiadau eithriadol y pandemig.

“Byddwn yn gweithio gyda CBAC i sefydlu fframwaith asesu i gefnogi ysgolion a cholegau i ddatblygu eu cynlluniau a’u prosesau asesu ar gyfer pennu graddau dysgwyr.

“Y ffocws nawr yw datblygu’r trefniadau manwl cyn gynted â phosibl a byddwn yn cydweithio â CBAC ac eraill i weithredu’r dull hwn.”

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol, ac rydym yn deall bod angen asesu mewn ffordd wahanol yn 2021,” meddai Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan.

“Mae’n bwysig rhoi pob cyfle i ddysgwyr Cymru ddangos yr hyn y maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.

“Yma mae gennym arbenigedd asesu o bob math, a bydd ein timau ni yn cynnig arweiniad a chefnogaeth o’r radd flaenaf i athrawon wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau a phrosesau yn ystod y flwyddyn eithriadol hon.”

Llythyr at ddisgyblion

Mewn llythyr at ddisgyblion ledled Cymru, ysgrifennodd Philip Baker: “Bydd eich graddau’n cael eu pennu gan eich ysgol neu goleg yn seiliedig ar amrywiaeth o wybodaeth asesu.

“Gallai hyn gynnwys asesiadau rydych wedi’u cwblhau yn ystod y cwrs, gan gynnwys gwaith cwrs.

“Bydd eich ysgol neu goleg yn penderfynu a ydyn nhw am ddefnyddio deunyddiau asesu wedi’u haddasu a fydd yn cael eu darparu gan CBAC i helpu i bennu eich gradd.

“Bydd eich ysgol neu goleg yn gallu ystyried faint o gynnwys cwrs rydych wedi’i drafod wrth benderfynu pa wybodaeth asesu i’w defnyddio.

“Os ydych chi’n poeni am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i chi, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch athrawon, darlithwyr ac oedolion eraill sy’n eich cefnogi.”

… ond canlyniadau UG ddim yn cyfrannu at Safon Uwch 2022

Yn y llythyr, aiff Phillip Baker ymlaen i egluro na fydd canlyniadau UG disgyblion yn cyfrannu at eu Safon Uwch.

“Rydyn ni wedi ystyried a oes unrhyw ffordd deg y gall canlyniadau UG o’r haf hwn gyfrannu at Safon Uwch yn haf 2022, ond yn anffodus does dim,” meddai.

“Y rheswm am hyn yw bod Safon Uwch fel arfer yn cael ei dyfarnu drwy roi marciau sy’n cael eu cyflawni ym mhob uned at ei gilydd (gan gynnwys unedau UG).

“Nid oes ffordd deg o ddefnyddio graddau UG o haf 2021 fel rhan o’r Safon Uwch yn 2022.

“Er hynny, os ydych chi’n sefyll cymhwyster UG yr haf hwn, byddwch yn dal i dderbyn gradd UG wedi’i benderfynu gan eich athrawon neu ddarlithwyr.

“Byddwch yn gallu defnyddio’r radd hon yn eich cais UCAS i brifysgolion ac i symud ymlaen i’r Safon Uwch.”

Croeso cynnes… ond angen eglurder

Mae undeb UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru) wedi croesawu’r datganiad, ac yn falch bod awdurdodau’n ymddiried yng ngallu athrawon i ddyfarnu graddau.

“Graddau wedi’u pennu gan ysgolion a cholegau oedd yr unig benderfyniad oedd yn gwneud synnwyr bellach, felly rydyn ni’n croesawu’r datganiad,” meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

“Bydd dileu’r gofyniad am unrhyw asesiadau allanol gorfodol yn rhyddhad o’r mwyaf i ddisgyblion ac i athrawon. Dylai’r drefn newydd ganiatáu mwy o amser ar gyfer parhau â’r dysgu, a pharatoi dysgwyr ar gyfer eu camau nesaf.

“Yn ogystal, mae’n dangos ymddiriedaeth ym mhroffesiynoldeb athrawon a’u hadnabyddiaeth o alluoedd disgyblion, ar sail ystod o dystiolaeth.”

Mae’r swyddog undeb yn rhybuddio bod angen i “athrawon am gael eglurder cyn gynted â phosib” ynghylch y fframwaith asesu.

Osgoi haf arall fel y llynedd

Mae aelodau NEU (Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru) wedi canmol y cam am ei fod yn dangos ffydd yng ngallu athrawon a darlithwyr.

“Dylai’r cyhoeddiad yma rhoi mwy o sicrwydd i bawb sydd ynghlwm ag ef – i ddisgyblion a staff” meddai.

“Mae’r deg mis diwethaf wedi bod yn hynod heriol i bawb ym maes addysg. Rydym yn awyddus i osgoi’r sefyllfa y gwnaethom ni ei wynebu haf diwethaf.

“Rydym wastad yn gofidio nad yw arholiadau yn llwyr adlewyrchu potensial pobol ifanc, ac rydym yn hynod falch nad oes cynlluniau i ddefnyddio fformiwla annheg eleni.”

Croeso cymysg gan y Ceidwadwyr

Mae Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr tros faterion addysg, wedi rhoi croeso llugoer i’r cyhoeddiad gan dynnu sylw at yr hyn mae’n ei ystyried yn wendidau gwersi ar-lein.

“Nid yw’r fframwaith wedi’i gynllunio gan CBAC yr hyn roeddwn wedi gobeithio amdano,” meddai. “Ac nid yw mor dda â rhaglen sydd wedi ei llunio a’i marcio yn allanol.

“Wedi dweud hynny, dyma ymdrech gadarn er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd o ran profi ac asesu hefyd.

“Er hynny, dyma gydnabyddiaeth bod gwersi ar-lein ddim wedi bod yn gwneud y jobyn, er gwaetha’ maes llafur teneuach ac enghreifftiau gwych o ysgolion yn gwneud yn hynod dda.”

‘Dyma’r penderfyniad cywir, ond…’ 

Dywedodd Siân Gwenllian AoS, llefarydd addysg Plaid Cymru, mai “dyma’r penderfyniad cywir” ond ei bod yn  “siomedig iawn na chafodd ei gymryd yn llawer cynt”.

“Ar ôl ffiasgo arholiadau haf 2020, dywedodd Plaid Cymru fod angen i raddau 2021 fod yn seiliedig ar asesiadau athrawon. Byddai hyn wedi dod ag eglurder cynnar ynghylch yr hyn a fu eisoes yn daith addysgol aflonyddedig iawn,” meddai.

“Yn hytrach, fe wnaethon ni wylio wrth i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig gael eu heffeithio’n anghymesur gan bandemig y coronafeirws. Gwnaethom yr alwad yn gyson i gael gwared ar arholiadau er mwyn peidio â’u rhoi o dan anfantais ddwywaith.

“Gyda bron i hanner blwyddyn ysgol eisoes wedi mynd heibio, mae Plaid Cymru yn croesawu’n gyffredinol y syniad o ganolfannau’n pennu graddau heb unrhyw broses ystadegol neu algorithm – a oedd wrth wraidd proses ddiffygiol yr haf diwethaf a’r ffiasgo dilynol.

Ailfeddwl ‘arholiadau ffug’

Fodd bynnag, mynegodd bryder am yr awgrym y gallai ‘arholiadau ffug’ fod yn rhan o’r broses, gan ddweud y dylid “osgoi unrhyw asesiad sy’n achosi gormod o straen i ddisgyblion yn ystod cyfnod mor bryderus.”

“Mae’r Gweinidog Addysg yn awgrymu y gallai ysgolion ddefnyddio ‘arholiadau ffug’ fel rhan o’r fframwaith asesu. Dylid osgoi unrhyw asesiad sy’n achosi gormod o straen i ddisgyblion yn ystod cyfnod mor bryderus a byddwn yn gofyn i’r Gweinidog ailfeddwl am yr agwedd honno,” meddai Siân Gwenllian.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y manylion am y broses sicrhau ansawdd ac apeliadau. Unwaith eto, mae dysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol yn cael eu gadael ar ôl ac mae angen eglurder arnynt hefyd fel mater o frys.”

 

Dosbarth mewn ysgol

Ymgyrchu i gael gwared ar asesiadau Lefel A a TGAU – dros 6,000 yn arwyddo deiseb

Meddwl am unrhyw asesiadau allanol yn “ysgogi panig” meddai disgybl Lefel A

Dim arholiadau yng Nghymru y flwyddyn nesaf

Bydd gwaith cwrs ac asesiadau’n disodli arholiadau TGAU a Safon Uwch, meddai Kirsty Williams