Mae Joe Biden wedi ei urddo’n Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Daw’r urddo bythefnos yn unig ar ôl protestiadau treisgar gan gefnogwyr ei ragflaenydd, Donald Trump, wrth iddyn nhw geisio meddiannu adeiladau’r Gyngres yn Washington ar Ionawr 6.

Doedd dim torfeydd yn bresennol oherwydd pandemig y coronafeirws.

Er gwaethaf rhybuddion diogelwch, gwrthododdd Joe Biden symud y seremoni dan do. Yn ystod y seremoni fe anerchodd dorf fach, gyda rheolau pellter cymdeithasol mewn grym.

“Heddiw rydym yn dathlu buddugoliaeth, nid buddugoliaeth ymgeisydd ond buddugoliaeth achos – achos democratiaeth,” meddai ar gychwyn ei araith.

Isod, wele gipolwg o strydoedd Washington yn gynharach yn y diwrnod – a oedd dan glo’n llwyr oherwydd y cyfyngiadau diogelwch.

‘Democratiaeth wedi goroesi’

“Dyma ddiwrnod America. Dyma ddiwrnod democratiaeth. Diwrnod o hanes a gobaith,” meddai Joe Biden yn ei araith gyntaf fel arlywydd.

“Trwy oesoedd creulon, mae America wedi ymateb i’r her.

“Heddiw rydym yn dathlu buddugoliaeth, nid buddugoliaeth ymgeisydd ond buddugoliaeth achos – achos democratiaeth.

“Fe ddysgon ni yn ddiweddar fod democratiaeth yn werthfawr. Mae democratiaeth yn fregus, ond ar hyn o bryd, ffrindiau, mae democratiaeth wedi goroesi.

“Nawr, ar y tir hwn, lle’r oedd trais ychydig ddyddiau’n ôl a geisiodd ysgwyd sylfaen y Gyngres, rydym yn dod at ein gilydd fel cenedl, o dan Dduw, i drosglwyddo pŵer yn heddychlon fel sydd wedi digwydd ers dros ddwy ganrif.”

‘Dim amser i’w wastraffu’

Yn fuan wedi’r seremoni, gan ddefnyddio ei gyfri Twitter newydd, @POTUS, dywedodd yr Arlywydd Biden: “Does dim amser i’w wastraffu i fynd i’r afael â’r argyfyngau sy’n ein hwynebu.

“Dyna pam, heddiw, rwy’n mynd yn syth i’r Swyddfa i weithio i ddarparu camau beiddgar a rhyddhad i deuluoedd Americanaidd.”

Isod, gallwch wylio crynodeb o’r diwrnod gan Maxine Hughes y tu ôl i’r llenni yn Washington.

Creu hanes

Yn 78 oed, Joe Biden yw’r Arlywydd hynaf i gael ei urddo, a Kamala Harris yw’r ddynes gyntaf i fod yn is-Arlywydd.

Hi hefyd yw’r person cyntaf o dras Asiaidd i gael ei hethol yn is-arlywydd.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ymhlith rheini sydd wedi llongyfarch Joe Biden a Kamala Harris ar eu hurddo.

Trump yn gadael y Tŷ Gwyn

Yn ystod ei araith diolchodd Arlywydd Biden i’w ragflaenwyr am eu presenoldeb.

“Rwy’n diolch i’m rhagflaenwyr o’r ddwy blaid sydd yma heddiw,” meddai.

Roedd cyn-arlywyddion Bill Clinton, George Bush ac Barack Obama yn bresennol yn y seremoni.

Dywed Biden ei fod hefyd wedi siarad â’r Arlywydd Jimmy Carter dros y ffôn.

Fodd bynnag, doedd Donald Trump ddim yn bresennol yn y seremoni – dim ond y pedwerydd arlywydd i beidio â gwneud hynny.

Wrth adael y Tŷ Gwyn fore dydd Mercher am y tro olaf dywedodd Donald Trump ei bod hi wedi bod yn “anrhydedd enfawr” i fod yn arlywydd.

“Mae wedi bod yn anrhydedd fawr, yn anrhydedd oes,” meddai.

“Rydyn ni’n caru pobl America, ac mae wedi bod yn brofiad arbennig iawn. Dwi eisiau ffarwelio ond gobeithio nad yw’n ffarwel am y tymor hir.

“Fe welwn ein gilydd eto.”

Wrth i’r seremoni ddechrau glaniodd Donald Trump a’i wraig Melania Trump yn Florida.