Mae cyn nyrs wedi cyfaddef dangos “diffyg gofal dychrynllyd” i breswylydd cartref gofal oedrannus oedd yn dioddef gyda dementia.
Clywodd cwest fod ei friwiau pwyso (pressure sores) o fod yn y gwely wedi cyfrannu at ei farwolaeth.
Dywedodd Daphne Richards ei bod yn sylweddoli bod preswylwyr yng Nghartref Gofal Brithdir wedi dioddef o dan ei goruchwyliaeth, gan feio’r sefyllfa ar gael ei “llethu” â chyfrifoldebau a diwylliant o anwybyddu cynlluniau gofal unigol.
Mae’r cwest yn clywed tystiolaeth i farwolaethau nifer o drigolion y cartref gofal yn Nhredegar Newydd rhwng 2003 a 2005, rhai ohonynt yn dioddef o ddiffyg hylif, diffyg maeth, a briwiau.
Ddydd Mercher, canolbwyntiodd y gwrandawiad yng Nghasnewydd ar farwolaeth Stanley James, cyn-weithiwr dur o Gaerdydd, oedd â hanes o ddementia ac oedd ddim yn gallu symud, fuodd farw ym mis Awst 2003.
Ni chafodd ei farwolaeth ei hadrodd i’r crwner i ddechrau – a chafodd llid yn ei ysgyfaint a dementia ei roi fel achos ei farwolaeth.
Ond canfu adroddiad arall, yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i’r gofal a gafodd ef ac eraill yn y cartref, ei bod yn debygol bod wlserau ar ei gorff “wedi gwneud peth cyfraniad i’w farwolaeth”.
Roedd dadansoddiad o gynlluniau gofal a roddwyd ar waith ar gyfer Stanley James yn dangos ei fod wedi datblygu nifer fawr o glwyfau o fis Ionawr 2002 ac a’i fod mewn “perygl mawr” o ddatblygu mwy.
Roedd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau i staff gofal ei droi ar ran wahanol o’i gorff bob dwy awr, ddydd a nos, i leddfu ei boen.
Ond ni chanfuwyd unrhyw nodiadau am gynnydd y cynllun erioed, a dim ond llond llaw o gofnodion a wnaed gan y staff i ddangos bod yr ail-leoli wedi digwydd.
“Diffyg gofal dychrynllyd”
Dywedodd Daphne Richards, a ymunodd â Brithdir ym mis Chwefror 2003 fel nyrs gofrestredig cyn dod yn rheolwr, nad oedd erioed wedi darllen cofnodion gofal Stanley James, ond ei bod “wedi bod yn ymwybodol rywsut” bod staff yn methu â gwneud cofnodion iddi.
Dywedodd: “Nid oeddwn yn gallu gwirio’r dogfennau hynny’n mor rheolaidd ac y dylent fod wedi cael eu gwirio.
“Weithiau cefais fy llethu gan waith.”
Pan ofynnwyd iddi gan y crwner Geraint William sut y gallai hi neu unrhyw un arall fod wedi cael sicrwydd bod preswylwyr yn derbyn y gofal priodol, dywedodd Daphne Richards: “Dydw i ddim yn siŵr sut i ateb hyn.
“Byddwn i’n dweud nad oedden nhw’n gwybod.”
Dywedodd Geraint Williams: “Mae’r hyn rydych chi wedi’i ddisgrifio yn dangos diffyg gofal dychrynllyd i Mr James.
“Diffyg gofal gwirioneddol, eithriadol o wael. Fyddech chi’n derbyn hynny?”
“Byddwn,” atebodd Daphne Richards.
Achosion eraill
Bydd y cwest, a fydd yn para tan fis Mawrth, hefyd yn edrych ar farwolaethau cyn-drigolion Brithdir, June Hamer, 71, Stanley Bradford, 76, Edith Evans, 85, Evelyn Jones, 87, a William Hickman, 71.
Wynebodd Dr Prana Das, a oedd yn berchen ar y cartref nyrsio ac yn ei redeg ynghyd â nifer o gyfleusterau eraill yng Nghymru, gyfres o gyhuddiadau yn ymwneud â methiannau mewn gofal cyn iddo ddioddef anaf i’r ymennydd yn ystod lladrad yn ei gartref yn 2012 a chafodd ei ddatgan yn feddygol anaddas i sefyll prawf.
Bu farw ym mis Ionawr y llynedd yn 73 oed, ond mae disgwyl i’w weddw a chyd-berchennog y cartref, Dr Nishebita Das, roi tystiolaeth yn y cwest.
Bydd gwrandawiad i farwolaeth seithfed preswylydd, Matthew Higgins, 86, yn cael ei gynnal ar ôl i’r chwech arall ddod i ben.