Roedd gwasanaethau iechyd meddwl i rieni newydd yn dipyn o bwnc llosg yn ystod y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma (dydd Mercher 20 Ionawr).

Yn ystod sesiwn cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, mi atebodd Eluned Morgan gyfres o gwestiynau am y maes hwn.

Tynnodd Lynne Neagle, Cadeirydd Y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg, sylw at y “pwysau digynsail” y mae’r argyfwng wedi’i roi ar rieni newydd.

Ac mi bwysleisiodd bod angen i’r Llywodraeth glustnodi arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol (perinatal) – gwasanaethau ar gyfer rhieni sydd newydd gael plentyn.

Ateb y Gweinidog oedd bod “canlyniadau” yn holl bwysig, ac awgrymodd bod modd cryfhau gwasanaethau heb orfod buddsoddi rhagor o arian.

“Un o’r pethau allweddol yr ydym ni’n trio ei wneud yw sicrhau bod yr holl awdurdodau iechyd yn cyrraedd safonau sydd wedi’u hamlinellu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion,” meddai.

“Mae rhai awdurdodau lleol yn bellach ar hyd y llwybr nag eraill. Rhaid i ni weld pa mor boll mae rhai byrddau iechyd wedi mynd wrth ddelifro [ein cynlluniau].

“Bydd disgwyl iddyn nhw gwrdd â safonau, ac mi fyddwn yn darparu digon o arian i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y safonau rheiny.”

Yn ddiweddarach mi holodd Laura Anne Jones, AoS Ceidwadol, am y posibiliad o lacio rheolau ‘aelwydydd estynedig’ er mwyn helpu rhieni.

Pwysleisiodd Eluned Morgan bod modd i rieni babanod fynnu cymorth oddi wrth ffrindiau a theulu os oes rhaid – ond ategodd na ddylid manteisio ar hynny jest am ei fod yn bosibiliad.

Arolwg Bethan Sayed

Wedi hynny mi wnaeth Bethan Sayed, AoS Plaid Cymru, ofyn cwestiwn arall am wasanaethau i rieni gan dynnu sylw at waith ymchwil.

Roedd yr Aelod ar gyfnod mamolaeth tan yn ddiweddar, ac mae ei swyddfa wedi cynnal arolygon am y pwnc.

O holi rhieni am eu profiadau nhw o wasanaethau amenedigol, mae’n dweud bod eu swyddfa wedi darganfod bod 68% yn teimlo nad oedden nhw’n derbyn cefnogaeth ddigonol.

“Dw i wedi dilyn canlyniadau eich arolwg,” meddai Eluned Morgan wrth ateb. “A dw i wedi cael fy syfrdanu eu bod nhw cweit mor uchel o ran peidio cael dilyniant [cymorth ychwanegol].

“Ac roedd hwnna’n rhywbeth oedd yn fy nhrafferthu i lot. A dyna pam rydym ni’n mynd i roi arian ychwanegol i mewn fel bod byrddau iechyd yn gallu cyrraedd y safonau yna sydd yn ddisgwyliedig.

“A thu fewn i’r safonau hynny mae yna ddealltwriaeth nad jest mamau sydd yn gorfod cael yr help yma. Ond mae tadau hefyd yn medru teimlo eu bod nhw yn cael eu gwthio allan.

“Ac felly mae angen help arnyn nhw.”