Mae pwysau mawr ar reolwr Caerdydd, Neil Harris, ar ôl i’w dîm golli ei chweched gêm yn olynol, gan eu gadael yn 15fed yn y Bencampwriaeth.

Collodd tîm Neil Harris o 1-0 yn erbyn Queen’s Park Rangers nos Fercher (Ionawr 20).

Ar ôl cyrraedd rowndiau cynderfynol y gemau ail gyfle’r tymor diwethaf, mae’r Adar Gleision bellach yn 13 pwynt oddi wrth y chwech uchaf.

“Yn ystod fy ngyrfa fel rheolwr, rwyf wedi profi y gallaf fod yn llwyddiannus os ydw i’n cael amser,” meddai

“Mewn pêl-droed, nid ydym yn cael amser ac rwy’n deall hynny.

“Dw i’n bod yn onest iawn gyda chi, does dim amheuaeth fy mod o dan bwysau, oherwydd disgwyliad y clwb pêl-droed hwn.

“Ond nid yw’n rhywbeth y gallaf ei reoli. Rwy’n gwybod fy mod yn gwthio fy staff yn galed ac yn paratoi yn y modd cywir, ond nid yw’r canlyniadau wedi bod yn ddigon da.

“Mae hynny [dyfodol Harris] yn gwestiwn i’r bwrdd.”

Cafodd Neil Harris ei benodi fel rheolwr Caerdydd ym mis Tachwedd 2019 ac arweiniodd y clwb i rownd gynderfynol y gemau ail gyfle’r tymor diwethaf.

Fodd bynnag, nid yw’r tymor hwn wedi bod yn un llwyddiannus hyd yma.

Dim ond tair o’u 13 gêm agoriadol yn unig enillodd yr Adar Gleision, gan ysgogi trafodaethau rhwng Neil Harris a pherchennog y clwb Vincent Tan am ddyfodol y rheolwr.

Ac mae’r chweched golled yn olynol, rhediad gwaethaf Caerdydd o ganlyniadau ers 2018, wedi rhoi mwy o bwysau ar y rheolwr.

“Allan o fy rheolaeth”

Pan ofynnwyd iddo am ei ddyfodol yn dilyn colli yn erbyn QPR, dywedodd Neil Harris: “Mae hynny allan o fy rheolaeth.

“Dw i’n gallu rheoli dewis y tîm a’r tactegau i wynebu Barnsley yr wythnos nesaf.

“Dw i’n llwyr ddeall pam bod cwestiynau’n cael eu gofyn.

“Alla’i ddim rheoli hynny ar hyn o bryd, felly bydd yn rhaid i mi adael hynny i’r pwerau uwch fy mhen.”

Caerdydd yn arwyddo Perry Ng o Crewe Alexandra

Mae’r cefnwr de wedi arwyddo cytundeb fydd yn ei gadw gyda’r Adar Gleisio tan haf 2024