Mae llywydd Uefa, Aleksander Ceferin, yn pwyso a mesur a ddylid cynnal Pencampwriaeth yr Ewros, a gafodd ei gohirio am flwyddyn yn sgil y coronafeirws, mewn un wlad yr haf hwn yn hytrach nag ar draws y cyfandir.
Y sefyllfa ar hyn o bryd yw y bydd y twrnament, sy’n parhau i gael ei adnabod fel Ewro 2020 er y bydd yn digwydd yn 2021, yn cael ei gynnal mewn 12 dinas ledled Ewrop.
Eglurodd Prif Swyddog Gweithredol Bayern Munich, Karl-Heinz Rummenigge fod pethau wedi newid ers i Uefa benderfynu cynnal y gemau ar draws Ewrop.
‘Syniad cyn covid’
“Rhaid cofio i’r syniad o gynnal y twrnamaint arbennig hwn ar draws Ewrop ddigwydd pan nad oedd y coronafeirws yn bodoli,” meddai wrth bapur newydd Muenchner Merkur/TZ yn yr Almaen.
“Bwriad Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd oedd i bêl-droed gael ei ddangos ledled Ewrop.
“Ond dwi’n gwybod bod llywydd Uefa, Aleksander Ceferin – sy’n anhygoel o ofalus gyda chorona – yn ystyried a fyddai’n gwneud mwy o synnwyr yn yr amseroedd hyn i chwarae’r twrnament mewn un wlad yn unig. Byddai hynny gyda gweithdrefn hylendid priodol, wrth gwrs.”
Mae disgwyl i gemau gael eu chwarae yn Llundain, Glasgow, Dulyn, Bilbao, Amsterdam, Copenhagen, Munich, Rhufain, St Petersburg, Bucharaf, Budapest a Baku, gyda’r rowndiau cynderfynol a terfynol yn cael eu chwarae yn Wembley – mae hynny wedi arwain at adroddiadau y byddai Lloegr yn ffefryn i gael mwy o gemau.
Ar hyn o bryd mae disgwyl i Gymru wynebu’r Swistir a Thwrci yn Baku a’r Eidal yn Rhufain.
Bydd Uefa yn gwneud penderfyniad terfynnol ym mis Mawrth.