Mae disgwyl i fachwr Cymru Ken Owens chwarae ei gêm gyntaf ers yr Hydref.
Dydy’r chwaraewr profiadol, sydd wedi ei enwi ymysg yr eilyddion i wynebu Gleision Caerdydd, heb chwarae ers anafu ei ysgwydd wrth chwarae i’r rhanbarth fis Hydref.
Mae’r Scarlets hefyd yn croesawu’r chwaraewyr rhyngwladol Johnny McNicholl, Wyn Jones, Ryan Elias a Jake Ball yn ôl i’r tîm cyntaf.
Mae Johnny McNicholl yn cymryd lle Liam Williams – mae’r cefnwr wedi ei wahardd am dair gêm ar ôl derbyn cerdyn coch.
Yn y rheng flaen mae Wyn Jones yn ymuno a Elias a Javan Sebastian, sydd yn cymryd lle Pieter Scholtz sydd wedi’i anafu.
Mae Jake Ball yn ailymuno a’r ail reng ar ôl gwella o’i anaf i’w ben glin.
Er bod Josh Macleod wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad – yr unig chwaraewr heb gap yn y garfan ryngwladol – ni fydd yn chwarae i’r Scarlets nos Wener oherwydd anaf i’w bigwrn.
Cerrig milltir i Morgan a Turnbull
Bydd Matthew Morgan yn chwarae ei ganfed gêm i’r Gleision nos Wener.
Yn y cyfamser bydd Josh Turnbull hefyd yn cyrraedd carreg filltir arbennig – pumed ar y rhestr o ran chwarae’r nifer fwyaf o gemau yn y PRO14.
Mae’r chwaraewr rheng ôl wedi chwarae i’r Scarlets a Gleision Caerdydd yn y gystadleuaeth.
“Mae’n wych gweld Matthew Morgan a Josh Turnbull yn cyrraedd y cerrig milltir mawr yma,” meddai Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi dros dro’r rhanbarth.
“Mae’n wobr am eu hymroddiad a’u gwasanaeth i’r tîm ac maen nhw wedi bod yn aelodau pwysig o’r garfan yn ystod eu hamser yma.”
Mae dau newid i dîm Gleision Caerdydd, a gurodd y Scarlets bythefnos yn ôl.
Seb Davies sydd yn dychwelyd i’r ail reng ac Alun Lawrence sydd yn cymryd lle Shane Lewis-Hughes yn y rheng ôl.
“Bydd ambell chwaraewr yn siomedig i golli allan ar gael eu dewis i’r tîm rhyngwladol yr wythnos hon,” ychwanegodd Dai Young.
“Y peth gorau y gallant ei wneud nawr yw rhoi eu pen i lawr, ymateb yn gadarnhaol a phrofi pwynt mewn gêm fawr fel hon.”
Tîm y Scarlets
15 Leigh Halfpenny, 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies (C), 12 Johnny Williams, 11 Steff Evans, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Jake Ball, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Ed Kennedy, 8 Sione Kalamafoni
Eilyddion: 16 Ken Owens, 17 Phil Price, 18 Werner Kruger, 19 Tevita Ratuva, 20 Uzair Cassiem, 21 Kieran Hardy, 22 Angus O’Brien, 23 Steff Hughes
Tîm Gleision Caerdydd
Matthew Morgan, Josh Adams, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Hallam Amos, Jarrod Evans, Tomos Williams, Corey Domachowski, Liam Belcher, Dmitri Arhip, Seb Davies, Cory Hill (C), Josh Turnbull, James Botham, Alun Lawrence
Eilyddion: Kristian Dacey, Rhys Carré, Dillon Lewis, Rory Thornton, Josh Navidi, Lloyd Williams, Ben Thomas, Aled Summerhill