Mae gôl Tom King yn erbyn Cheltenham wedi cael ei chadarnhau fel y gôl hiraf yn hanes pêl-droed.

Mae’r gôl, a gafodd ei sgorio o 96.06 metr, neu 105 llath, yn disodli gôl Asmir Begovic i Stoke yn 2013, a gafodd ei sgorio o 91.9 metr, neu 100.5 llath.

“Wrth fy modd”

Dywedodd King, a gafodd ei alw i garfan Cymru yn 2019, y byddai’n cysylltu â Begovic i anfon ei gydymdeimladau ato.

“Dw i’n amlwg wrth fy modd gan nad yw’n rhywbeth yr oeddwn yn bwriadu ei wneud,” meddai King wrth wefan Casnewydd.

“Dw i’n siŵr y bydd yn cael ei drafod am amser maith, felly rwy’n falch ac rwy’n siŵr y bydd fy nheulu yn hynod falch hefyd.

“Bydd yn rhaid i mi anfon neges i Asmir i anfon fy nghydymdeimlad, ond, yn gwbl onest, mae’n dir newydd i mi.

“Nes i erioed freuddwydio am fod yn y llyfrau rydych chi’n eu cael ar gyfer y Nadolig bob blwyddyn.

“Gobeithio y byddaf yn ei ddarllen os byddaf yn cael un ar gyfer y Nadolig eleni.

“Dwi wrth fy modd a gobeithio nad oes neb yn ei guro ers amser maith nawr er mwyn i mi allu dangos i fy wyrion!”

Roedd Begovic wedi dal y record ers mis Tachwedd 2013 pan sgoriodd mewn gêm yn yr Uwchgynghrair yn erbyn Southampton ar ôl dim ond 13 eiliad.

Golwr Casnewydd yn sgorio o gic gôl yn erbyn Cheltenham

Tom King yn sicrhau pwynt i’w dîm