Mae Neil Harris wedi gadael ei swydd fel rheolwr Dinas Caerdydd.

Daw’r penderfyniad ar ôl i’r Adar Gleision golli saith allan o’u wyth gêm ddiwethaf.

Mae’r rheolwr cynorthwyol, David Livermore, hefyd wedi gadael y clwb.

‘Cydnabod eu hymdrechion’

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Neil a David am eu gwaith caled gyda Dinas Caerdydd,” meddai perchennog y clwb, Vincent Tan.

“Rydw i’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu hymdrechion i’n gwthio tuag at y pumed safle a’r gemau ail gyfle llynedd, ond yn anffodus rydym mewn busnes sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac mae ein canlyniadau ar y cae a chynnydd y tymor hwn wedi bod yn wael iawn.

“Oherwydd hyn, nid oedd dewis ond eu rhyddhau o’u dyletswyddau mewn ymdrech i wella ein canlyniadau.

“Hoffwn yn bersonol ddymuno’r gorau i Neil a David gyda’u hymrwymiadau a’u hymdrechion yn y dyfodol. Bydd croeso iddynt bob amser yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dymunaf bob lwc ac iechyd da iddynt.”

Bydd y broses nawr yn dechrau i ddod o hyd i olynydd i Neil Harris – yr wythfed rheolwr ers i Vincent Tan brynu’r clwb un-ar-ddeg mlynedd yn ôl.

Neil Harris, rheolwr Caerdydd

Pwysau mawr ar Neil Harris ar ôl i Gaerdydd golli ei chweched gêm yn olynol

Ond Neil Harris yn mynnu ei fod “wedi profi y gallaf fod yn llwyddiannus os ydw i’n cael amser”