Mae asgellwr y Dreigiau Ashton Hewitt wedi ysgrifennu llythyr agored annog pobol sydd wedi profi hiliaeth mewn chwaraeon i rannu eu profiadau.

Mae’n rhan o ymgyrch #RhannwchEichStori gan Chwaraeon Cymru sydd â’r nod o gynnig lle diogel i bobl rannu eu profiadau o hiliaeth mewn chwaraeon.

Ar ôl colli yn erbyn y Scarlets ddechrau’r flwyddyn derbyniodd Hewitt negeseuon hiliol ar gyfryngau cymdeithasol.

‘Profi hiliaeth drwy gydol fy mywyd’

“Fel rhywun sydd wedi profi hiliaeth drwy gydol fy mywyd, yn y gamp rydw i wedi’i chwarae erioed, rydw i eisiau gwneud yr hyn a allaf i sicrhau nad oes rhaid i bobl iau sy’n cymryd rhan ym mha bynnag gamp yn profi rhai o’r pethau rydw i wedi eu profi, a theimlo fel rydw i wedi teimlo,” meddai Ashton Hewitt.

“Doeddwn i ddim yn ddigon hyderus bob amser i siarad am faterion yn ymwneud â hiliaeth rhag ‘troi’r drol’ a chodi mater na fyddai unrhyw un arall o’m cwmpas i’n ei ddeall.

“Roedd hyn yn caniatáu i hiliaeth barhau heb ei gwestiynu.

“I’r rheini ohonom ni sy’n chwarae am hwyl neu fel gyrfa, ni ddylai hiliaeth fod yn rhan o’r siwrnai honno fyth ac mae’n hanfodol ein bod ni’n deall, yn cydnabod ac yn addysgu ar fater hiliaeth.

“Mae chwaraeon yn rhan enfawr o’n bywydau ni ac ochr yn ochr â hynny, dylai amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weladwy ar draws yr holl chwaraeon a’u sefydliadau, o’r cyfranogwyr ar y lefelau is i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar y brig.”

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael ac amrywiaeth ar draws sefydliadau yng Nghymru.

“Mae’n dechrau drwy sicrhau dealltwriaeth o brofiadau pobl a’r rhwystrau maent wedi’u hwynebu,” medd Ashton Hewitt.

“Felly, rydw i’n annog unrhyw un sy’n teimlo’n ddigon cyfforddus i wneud hynny i rannu eu profiadau a chymryd rhan yn y fenter #RhannwchEichStori fel bod eu llais yn cael ei glywed wrth bwyso am y newid hwn.”

Mae modd uwch lwytho straeon ysgrifenedig neu fideos i wefan storiesmatter.co.uk, ac mae Hewitt yn annog eraill i beidio â cholli’r cyfle i dynnu sylw at eu profiadau.

Negeseuon hiliol yn “ffieiddio” y Dreigiau

Ashton Hewitt wedi cael ei dargedu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r rhanbarth wedi rhoi gwybod i’r heddlu