Dyma’r cyfraddau Covid-19 diweddaraf ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 17 Ionawr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru, a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae’r gyfradd wedi gostwng mewn 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol.

Yr unig ardal lle mae’r gyfradd wedi codi yw Gwynedd, lle mae i fyny o 171.0 i 203.9, gyda 254 o achosion newydd.

Wrecsam sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru, gyda 896 o achosion newydd wedi’u cofnodi yn y saith diwrnod hyd at 17 Ionawr – sy’n cyfateb i 659.0 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Mae hyn i lawr o 870.1 achos i bob 100,000 o bobl yn y saith diwrnod hyd at 10 Ionawr.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Ionawr.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Ionawr 18-21) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 17 Ionawr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 17 Ionawr; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 10 Ionawr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 10 Ionawr.

Wrecsam 659.0, (896), 870.1, (1183)
Sir y Fflint 463.8, (724), 624.0, (974)
Pen-y-bont ar Ogwr 330.5, (486), 523.6, (770)
Sir Ddinbych 330.2, (316), 427.4, (409)
Casnewydd 305.8, (473), 422.8, (654)
Bro Morgannwg 291.9, (390), 378.8, (506)
Caerdydd 281.5, (1033), 348.6, (1279)
Merthyr Tudful 261.9, (158), 492.3, (297)
Sir Gaerfyrddin 260.1, (491), 308.8, (583)
Castell-nedd Port Talbot 250.5, (359), 334.2, (479)
Torfaen 246.9, (232), 438.5, (412)
Rhondda Cynon Taf 244.5, (590), 394.6, (952)
Caerffili 243.0, (440), 346.8, (628)
Gwynedd 203.9, (254), 171.0, (213)
Powys 189.5, (251), 199.3, (264)
Sir Fynwy 187.1, (177), 278.0, (263)
Abertawe 182.2, (450), 280.2, (692)
Conwy 169.8, (199), 214.2, (251)
Sir Benfro  160.5, (202), 243.2, (306)
Blaenau Gwent 160.3, (112), 323.5, (226)
Ceredigion 151.3, (110), 156.8, (114)
Ynys Môn 131.3, (92), 152.8, (107)