Mae dros hanner miliwn o bobl yn aros am driniaeth gan y GIG yng Nghymru, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae 530,371 o bobl ar y rhestr aros – y nifer uchaf erioed. Ac o’r rheiny, mae bron i hanner – 231,722 (44%) – wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos i’w triniaeth ddechrau.

Ym mis Mawrth y llynedd, dim ond 28,294 o bobl oedd wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos – sef targed Llywodraeth Cymru ar gyfer amser aros cyn dechrau triniaeth.

Mae effaith pandemig Covid-19 a diddymu triniaethau nad ydynt yn rhai brys wedi gweld 73,562 yn cael eu hychwanegu at y restr ers hynny.

“Pwysau dwys a pharhaus”

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gwasanaethau’r GIG yn parhau i fod o dan “bwysau dwys a pharhaus” o gyfuniad o bwysau arferol y gaeaf a phandemig y coronafeirws.

“Mae nifer y bobl sydd angen triniaeth ar gyfer y coronafeirws yn cael effaith fawr ar ddarparu gwasanaethau’r GIG, gan effeithio ar amseroedd aros,” meddai llefarydd.

“Nid yw’r GIG yn ddiogel rhag effeithiau coronafeirws ei hun – mae lefelau uchel o absenoldeb staff wrth i bobl fynd yn sâl gyda’r feirws neu orfod hunanynysu.

“Rydym wedi sicrhau bod £30 miliwn ychwanegol ar gael eleni i gefnogi gwasanaethau gofal brys a chynyddu gwydnwch dros weddill y flwyddyn ariannol hon.

“Rydym yn parhau i ofyn i bawb ddilyn y rheolau i arafu lledaeniad y feirws ofnadwy hwn – aros gartref, diogelu’r GIG ac achub bywydau.”

“Arswydus”

Galwodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, y ffigyrau’n “arswydus”.

“Yn anffodus, roedd targedau rhestrau aros yn cael eu methu cyn i’r pandemig ddechrau, gyda’r Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru yn siomi cleifion yn gyson,” meddai.

“Mae coronafeirws bellach wedi arwain at gofnodi’r amseroedd aros gwaethaf, ond nid yw’r pandemig ond wedi tynnu sylw at ba mor wael oedd pethau o’r blaen, ac mae’r ffigurau dinistriol hyn yn dangos bod angen cynllun adfer amseroedd aros arnom ar frys gan weinidogion Llafur.”

Dywedodd Richard Johnson, o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon: “Mae’r ffigurau hyn yn drychinebus. Mae nifer syfrdanol o gleifion – bron i chwarter miliwn – bellach yn aros mwy na 36 wythnos i ddechrau triniaeth yng Nghymru.

“At hynny, mae mwy na hanner miliwn o bobl ar y rhestr aros yn gyffredinol. Mae rhestr aros enfawr wedi cronni o dan bandemig Covid-19.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth glir ar frys i ddileu’r oedi, wedi’i hategu gan fuddsoddiad parhaus.”

Canser

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod nifer yr atgyfeiriadau gan feddygon teulu ar gyfer diagnosis o ganser yn parhau’n isel yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2020, ymunodd 11,717 o gleifion â’r llwybr canser sengl – 1,200 yn llai nag yr un mis y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Richard Pugh, o elusen Cymorth Canser Macmillan: “Mae’n werth nodi bod y ffigurau diweddaraf hyn yn dyddio o cyn y cyfyngiadau cenedlaethol yr ydym wedi bod ynddynt ers cyn y Nadolig – cyfnod lle rydym wedi gweld ein gwasanaethau iechyd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r lefelau uchaf o haint coronafeirws y mae Cymru wedi’i weld ers dechrau’r argyfwng.

“Rydyn ni’n gwybod bod rhai triniaethau, rhai brys a rhai nad ydynt yn frys, wedi cael eu gohirio neu eu canslo yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf.

“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod llawer o bobl yn dal i boeni am ymweld â’u meddyg teulu. Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn gwybod bod eu meddyg teulu yn dal ar agor ac y byddant am glywed ganddynt os oes newid, newydd neu barhaus, i’w hiechyd.”