Cafodd menyw â dementia ei hesgeuluso gan staff cartref nyrsio a’i gadael i ddatblygu briwiau pwyso yn y gwely yn y misoedd cyn ei marwolaeth, mae cwest wedi clywed.
Bu farw June Hamer, 71, wythnosau ar ôl iddi gael ei gweld gan feddyg ar gyfarwyddyd ei theulu ar ôl iddynt ddechrau pryderu am y diffyg gofal a roddwyd iddi yng Nghartref Nyrsio Brithdir.
Mae cwest yng Nghasnewydd, Gwent, yn clywed tystiolaeth i farwolaethau saith o drigolion y cartref gofal yn Nhredegar Newydd rhwng 2003 a 2005, rhai ohonynt yn dioddef o ddiffyg hylif, diffyg maeth, a briwiau pwyso.
‘Mwy o ddiddordeb mewn ysmygu a sgwrsio’
Ddydd Iau, disgrifiodd datganiad gan ŵr Mrs Hamer, Ronald Hamer, y diffyg gofal a gafodd ei wraig ar ôl iddi symud yno ym mis Hydref 2003, ar ôl i’w dementia olygu na allai ef ofalu amdani gartref mwyach.
Dywedodd Mr Hamer, a roddodd y datganiad yn ystod ymchwiliad cynharach gan yr heddlu: “Roeddwn i’n teimlo pe na bawn i yno, na fyddai neb yn gwneud yn siŵr ei bod wedi cael ei bwydo neu wedi derbyn digon o hylif.
“Roeddwn i’n gweld, pe bai angen ei newid, roedd yn rhaid i mi ofyn i staff roi sylw iddi. Roedd yn ymddangos bod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn ysmygu a sgwrsio ar waelod y coridor yn hytrach na diwallu i anghenion y preswylwyr.”
Dywedodd Mr Hamer ei fod wedi sylwi bod iechyd ei wraig yn dirywio erbyn mis Gorffennaf 2004, a bod ei cheg erbyn hynny wedi chwyddo fel adwaith i benisilin – er bod ei nodiadau gofal yn dweud bod ganddi alergedd iddo.
Ddechrau’r mis Awst hwnnw dywedodd ei fod wedi sylwi bod briwiau pwyso ar gefn ei wraig, a bod rheiny wedi’u heintio. Bu’n rhaid iddo drefnu i feddyg ei gweld yn syth ar ôl i nyrs cartref gofal ddweud wrtho “na allai” wneud hynny ei hun.
Archwiliodd Dr Nada El-Manhani, meddyg teulu mewn meddygfa lle’r oedd merch-yng-nghyfraith Mr Hamer yn gweithio fel rheolwr swyddfa, Mrs Hamer yn y cartref nyrsio a daeth i’r casgliad bod yr wlserau mawr, heintiedig yn cyfrannu at ei salwch.
Dywedodd y meddyg teulu mewn datganiad bod y briwiau’n ddigon difrifol i achosi septisemia a threfnodd iddi fynd i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ar unwaith.
Arhosodd Mrs Hamer yn yr ysbyty am yr wythnosau nesaf nes iddi farw ar 27 Awst, gydag arbenigwyr yn ddiweddarach yn dod i’r casgliad ei bod yn debygol bod y briwiau wedi cyfrannu at ei marwolaeth – ynghyd â broncopneumonia a dementia.
“Anobeithiol”
Dywedodd merch Mrs Hamer, Tracy Allen, fod gofalwyr y cartref yn “anobeithiol”, a dywedodd sut cafodd ei mam ei gorfodi i dynnu’r rhan fwyaf o’i dannedd oherwydd heintiau yn ei cheg.
Dywedodd un cyn-ofalwr a fu’n gweithio yno yn ystod arhosiad Mrs Hamer, June Smith, na chafodd unrhyw hyfforddiant er gwaethaf sawl cais i’r rheolwr ar y pryd, Peter Smith.
Ni ddywedwyd wrth y staff erioed am lanhau dannedd preswylwyr, ac ni roddwyd “sleidiau” iddynt a ddefnyddir i adleoli cleifion yn eu gwelyau os oeddent yn dioddef o friwiau.
“Ni chefais wybod erioed am ffyrdd penodol o droi preswylwyr, na hyd yn oed droi preswylwyr drwy’r nos. Yn wir, byddwn yn dweud fy mod wedi cael cyfarwyddyd penodol i beidio ag amharu ar gleifion tra’u bod yn cysgu,” meddai.
Clywodd y cwest fod y cartref nyrsio wedi methu â chofnodi a oedd gweithgareddau ac asesiadau dyddiol o gynllun gofal unigol Mrs Hamer yn cael eu cynnal mewn gwirionedd, er iddi gael eu hasesu fel rhywun oedd angen “lefel uchel o ofal nyrsio”.
“Annerbyniol”
Cyfaddefodd Daphne Richards, a ymunodd â Brithdir fel nyrs i ddechrau cyn dod yn rheolwr dros dro ym mis Ionawr 2004, fod y diffyg gwaith papur wedi’i gwblhau ar gyfer Mrs Hamer yn “annerbyniol”.
Wrth ymddangos yn y cwest drwy gyswllt fideo, dywedodd nad oedd yn gwybod sut i drin briwiau Mrs Hamer, a’i bod wedi ymddiried yn “uniondeb” ei staff i ddilyn cynlluniau gofal.
Dywedodd Mrs Richards ei bod yn aml yn brin o staff, gan ychwanegu: “Nid oedd gweithio fel rheolwr fel gweithio fel rheolwr go iawn, oherwydd doeddwn i ddim yn ymdopi hanner yr amser.”
Pan ofynnwyd iddi gan y crwner, Geraint Williams, a oedd hi’n credu ei bod hi’n rhannol gyfrifol am ddatblygu wlser pwyso Mrs Hamer, dywedodd Mrs Richards: “Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb. Yr holl nyrsys cymwys.”
Cafodd Mrs Richards ei dileu oddi ar y gofrestr nyrsio yn 2015 yn dilyn Ymgyrch Jasmine Heddlu Gwent, a lansiwyd yn 2005 ac a ddatgelodd fethiannau mewn nifer o gartrefi gofal yn yr ardal.