Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi dweud ei bod yn “hyderus” y bydd traffig yn dychwelyd i borthladd Caergybi.

Daw’r sylw wedi iddi ddod i’r amlwg bod traffig wedi distewi cryn dipyn yn y porthladd.

Daeth y cyfnod pontio – cyfnod lle’r oedd rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn dal i fod mewn grym – i ben ddiwedd llynedd, ac mae yna bryder mai dyna sydd wrth wraidd y gwymp.

Mae Virginia Crosbie, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, yn ffyddiog mai cwymp “dros dro” yw hyn, ac y bydd pethau’n gwella wedi i fusnesau gyfarwyddo â’r drefn newydd.

“Mae teithiau rhwng Iwerddon ac Ewrop dipyn yn hirach nag y daith i Gaergybi ac ar y tir dros Brydain,” meddai.

“Mae’n well gan gludwyr y daith ar y tir dros Brydain am ei fod yn gyflymach, mae’n fwy cyfleus, ac mae tywydd garw yn peri llai o broblemau o ran oedi.

“Unwaith bydd busnesau yn hyderus bod y sustemau Brexit newydd yn gweithio yn effeithlon, a bod oedi ddim yn fwy tebygol, mi ddylwn weld traffig yn cynyddu unwaith eto yng Nghaergybi.”

Mae yn credu bod busnesau wedi dewis llwybrau gwahanol am eu nwyddau, ac wedi dal nwyddau yn ôl, yn rhannol oherwydd “adroddiadau negyddol yn y wasg”.

Sosejys ffermwyr Cymru

Hefyd, yn siarad fore heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin mi wnaeth Virginia Crosbie godi sawl gwen wrth holi am selsig ffermwyr Cymru.

“Ydy [Victoria Prentis] yn cytuno â fi bod selsig sydd wedi ei ffermio yng Nghymru yn mynd yn dda ag unrhyw frecwast da?” meddai wrth yr Is-Ysgrifennydd Seneddol yn ystod y sesiwn.

“Wel, mae’n anodd curo selsigen o Gymru,” meddai Victoria Prentis. “A hoffwn longyfarch Undeb Amaethwyr Cymru  am eu hymgyrch ‘brecwast ffermdy’ wych.”