Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried “pob un opsiwn” er mwyn sicrhau bod disgyblion yn dychwelyd i’w hysgolion.
Wrth i sefyllfa’r argyfwng ddwysáu, bythefnos yn ôl cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y byddai ysgolion Cymru yn aros ar gau tan ganol fis Chwefror ar y cynharaf.
Yn y cyfamser mae disgyblion wedi bod yn dysgu ar-lein, ond ochr yn ochr â hynny mae yna ofidion am ansawdd addysg dros y we, gyda rhai’n wynebu heriau o ran technoleg a chysylltu â’r we – yr hyn y mae Plaid Cymru wedi ei alw’n ‘raniad digidol’.
Gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw, holwyd y Gweinidog ynghylch y posibiliad o gyflwyno system rota mewn ysgolion – system lle dim ond rhai dosbarthiadau byddai mewn ysgol ar y tro.
Yn ymateb i hynny, dywedodd Kirsty Williams bod ei Llywodraeth yn agored i ystyried pob math o ddatrysiadau.
“Mae’n rhaid i ni fod yn awyddus i drafod pob opsiwn sydd ar gael i ni, os yw hynny’n golygu y bydd mwy o blant yn cael addysg wyneb i wyneb,” meddai. “Dyna dw i moyn.
“Ac mae yna hyblygrwydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth weithio â’r Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) a’r undebau addysg i ddod o hyd i ymateb sy’n fwy soffistigedig.
“Dw i eisiau i blant ddychwelyd i’r ysgolion, mae’r AALlau eisiau bod plant yn ôl yn yr ysgol, a dw i’n credu bod undebau addysg eisiau hynny hefyd.
“Felly mae’n rhaid i ni edrych ar bob un opsiwn sydd yn caniatáu inni wneud hynny.”
Ategodd “y gallai rotas chwarae rhan” gan eu bod yn caniatáu i grwpiau llai o blant fod yn yr un ysgol ar yr un pryd. Mae hynny yn ei dro yn hwyluso pellhau cymdeithasol, ac ati.
Amseroedd tymhorau
Holwyd hefyd am yr opsiwn o newid amseroedd y tymhorau ysgol, ac roedd y Gweinidog yn cydnabod bod yna le i drafod hynny.
“O ran amseroedd tymhorau byddai rhai yn dadlau ei bod yn hen bryd i ni gynnal dadl ynghylch sut yr ydym yn strwythuro’r flwyddyn academaidd,” meddai.
“Cyn covid, roeddwn wedi dechrau’r gwaith o geisio dod o hyd i ffyrdd newydd o strwythuro’r diwrnod ysgol.
“Ac mae’r argyfwng wedi rhwystro’r gwaith yna, i ryw raddau. Dw i’n credu y gallwn ddysgu gwersi o hyn pan fydd pethau’n dychwelyd i sut oedden nhw.”
Brechu athrawon?
Mae yna gryn drafod wedi bod ynghylch y rhaglen frechu, a’r ffaith nad yw athrawon ymhlith y grwpiau blaenoriaeth.
Ac mae Kirsty Williams eisoes wedi amddiffyn penderfyniad y Llywodraeth i beidio cynnwys athrawon, gan ddadlau bod y dystiolaeth wyddonol yn awgrymu nad yw athrawon yn wynebu risg uwch.
Er hynny, roedd hi ychydig yn llai sicr ei thôn y tro hwn, ac roedd yn cydnabod y gallai blaenoriaethau brechu newid pe bai’r dystiolaeth yn newid.
“Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ynghylch bregusrwydd,” meddai.
“Ond dw i yn cytuno, wrth i JCVI edrych at flaenoriaethu set nesaf y rhaglen frechu mae’n hollol briodol ein bod yn edrych ar ystod o ffactorau gan gynnwys y risg o ddal yr haint yn y gweithle,” meddai wedyn.
“Ac [ystyried] a yw pobol mewn rhai swyddi yn wynebu risg uwch – ae yna lot o bobol sydd yn gweithio ar y rheng flaen. A dw i’n gwybod bod JCVI yn astudio’r dystiolaeth o hynny.”